Sussex yn adeiladu mantais fawr dros Forgannwg

Luke Wells Image copyright Mike Hewitt
Image caption Llwyddodd Luke Wells i sgorio 181 rhediad i Sussex

Mae canrifoedd Luke Wells a Ben Brown wedi rhoi mantais fawr o 217 rhediad i Sussex ar ddiwedd y batiad cyntaf yn erbyn Morgannwg.

Fe ddaeth y tîm cartref a'u batiad i ben ar 552-5 wrth i Forgannwg ychwanegu sgôr o 30-1 ar ddechrau'r ail fatiad ar y trydydd diwrnod yn Sussex.

181 rhediad Wells a 159 heb fod allan gan Brown oedd eu sgoriau gorau o'r tymor hyd yn hyn wrth i Sussex gymryd mantais o amgylchiadau a chae ffafriol.

Ond gyda diwrnod yn unig yn weddill, bydd rhaid i Sussex fowlio'n ddisgybledig ddydd Mawrth i osgoi gêm gyfartal.