Arweinydd y Ceidwadwyr: Crabb yn tynnu 'nôl fel ymgeisydd

Stephen Crabb Image copyright Getty Images

Mae Aelod Seneddol Preseli Penfro, Stephen Crabb wedi tynnu 'nôl fel ymgeisydd i fod yn olynydd David Cameron fel arweinydd y Blaid Geidwadol a'r prif weinidog nesaf.

Theresa May wnaeth dderbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau yn rownd gyntaf y pleidleisio gan ASau Ceidwadol ddydd Mawrth.

Cafodd Liam Fox ei fwrw allan o'r ras ar ôl derbyn y nifer lleiaf o bleidleisiau.

Mr Crabb wnaeth dderbyn y nifer lleiaf o bleidleisiau ar ôl Mr Fox, gan ennill cefnogaeth 34 AS yn unig.

Y canlyniadau'n llawn oedd Ms May ar 165, Andrea Leadsom ar 66, Michael Gove ar 48, Mr Crabb ar 34, a Mr Fox ar 16.

May y ffefrun

Fe wnaeth David Cameron gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae cyn Ysgrifennydd Cymru, Crabb, sy'n 43 oed, wedi cynrychioli etholaeth Preseli Penfro ers 2005 ac roedd ei ymgais yn cael ei gefnogi gan yr Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid.

Dywedodd y bydd nawr yn cefnogi ymgyrch Ms May.

Ddydd Llun dywedodd 115 o ASau Ceidwadol eu bod yn cefnogi ymgyrch Ms May - tua 35% o'r cyfanswm.

Roedd 40 wedi cyhoeddi eu cefnogaeth i Ms Leadsom, Mr Gove (26) Mr Crabb (23) a Mr Fox (9).

Image caption Yr ymgeiswyr: Stephen Crabb, Andrea Leadsom, Dr Liam Fox, Theresa May a Michael Gove

Roedd rownd gyntaf o'r bleidlais ar agor i ASau Ceidwadol o 11:00 nes 18:00.

Fe fydd yr ymgeiswyr sy'n weddill nawr yn penderfynu os ydyn nhw am barhau gyda'u hymgais.

Bydd pleidlais yn cael ei chynnal pob dydd Mawrth a dydd Iau nes y bydd dau ymgeisydd yn weddill, fydd yn symud 'mlaen i bleidlais bost gan aelodau'r blaid.

Mae'n rhaid i'r bleidlais gael ei chwblhau cyn i Dŷ'r Cyffredin fynd ar eu gwyliau haf ar 21 Gorffennaf.