Carwyn yn 'colli gafael ar bobl Cymru'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Carwyn Jones wedi 'colli gafael ar bobl Cymru'

4 Gorffennaf 2016 Diweddarwyd 21:23 BST

Mae un o aelodau amlyca'r Blaid Lafur yng Nghymru yn dweud bod y syniad o gyflwyno system ffederal o fewn y Deyrnas Unedig yn "falu awyr cenedlaetholgar".

Er bod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn cefnogi strwythur o'r fath wedi canlyniad y refferendwm, mae'r cyn weinidog Llafur, Kim Howells wedi dweud wrth raglen Newyddion 9 y dylai pobl o fewn ei blaid "wybod yn well".

Y stori'n llawn gan Ohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Aled ap Dafydd.