Morgannwg yn batio trwy'r dydd i sicrhau gêm gyfartal

David Lloyd Image copyright Getty Images
Image caption Llwyddodd David Lloyd i daro 102 heb fod allan

Fe wnaeth Morgannwg lwyddo i sicrhau gêm gyfartal yn Sussex wrth i ganrif David Lloyd eu helpu i fatio trwy'r diwrnod olaf.

Wedi i dair wiced gael eu colli yn y bore, llwyddodd Lloyd i daro 102 heb fod allan, gyda chefnogaeth gan Aneurin Donald (44) a Jacques Rudolph (38).

Roedd Sussex mewn safle cryf amser cinio, ond dim ond un wiced y llwyddon nhw i gymryd yn y prynhawn.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Morgannwg yn parhau heb fuddugoliaeth ym Mhencampwriaeth y Siroedd y tymor yma.