Tre Penne 0-3 Seintiau Newydd

tns Image copyright Gareth hughes

Mae'r Seintiau Newydd wedi cyrraedd yr ail rownd o gymhwyso ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr, a hynny ar ôl curo Tre Penne yn San Marino.

Fe fyddant nawr yn cyfarfod Apoel Nicosia o Gyprus yn yr ail rownd ragbrofol.

Fe sgoriodd Scott Quigley i TNS ' yn yr hanner cyntaf, gyda goliau gan Aeron Edwards a Greg Draper yn dod ar ôl yr egwyl.

Roedd enillwyr y gynghrair Gymreig eisoes wedi sicrhau un fuddugoliaeth o 2-1 yn erbyn y tîm cartref, yng nghymal cyntaf y rownd ragbrofol yn Neuadd y Parc.