Hanes dau Gymro yng nghoedwig Mametz

milwyr Mametz
Image caption Rhai o filwyr y 'Fyddin Gymreig', sawl un oedd wedi gwirfoddoli a'i gilydd

Roedd y fyddin fu'n ymladd yng Nghoedwig Mametz ym mis Gorffennaf 1916 yn llawn gwirfoddolwyr o bob rhan o Gymru.

Roedden nhw yn lowyr, ffermwyr ac yn weithwyr banc, gyda nifer wedi ymuno gyda'i gilydd fel criw o ffrindiau i'r 38ain Adran (Gymreig).

Dyma oedd "Byddin Gymreig" chwedlonol David Lloyd George.

Y nod ar 7 Gorffennaf 1916 oedd cipio Coedwig Mametz - y goedwig fwyaf yn ardal y Somme - fel rhan o'r cyrch enfawr i geisio chwalu llinell amddiffynnol yr Almaenwyr.

Yn eu hwynebu roedd rhai o filwyr mwyaf profiadol yr Almaen, Catrawd Lehr, sef milwyr Prwsiaidd.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mametz: Yr hyn ddigwyddodd

Ar y diwrnod hwnnw, fe ymosododd 16/Catrawd Cymreig (bataliwn Caerdydd) ac 11/Cyffinwyr De Cymru ar y milwyr Prwsiaidd.

Bu ymgais i gelu'r ymosodiad trwy gyfrwng sgrin o fwg, ond cafodd yr ymgais ei disgrifio fel methiant llwyr. Roedd y Cymry ifanc yn darged rhwydd i'r Almaenwyr oedd wedi goroesi'r ffrwydron a daniwyd tuag at eu hamddiffynfeydd yn y Goedwig.

Roedd uwch swyddogion y Fyddin wedi disgwyl y byddai'n cymryd ychydig oriau i gipio Coedwig Mametz. Roedden nhw wedi camddehongli cryfder y lluoedd Almaenig yn llwyr.

Fe wnaed ymdrech arall ar 10 Gorffennaf 1916, a llwyddodd rhai o'r milwyr i gyrraedd y goedwig, er gwaetha colledion enbyd ar y tir agored rhwng y ffosydd a'r coed.

Fe wthiwyd yr Almaenwyr o'r goedwig dau ddiwrnod yn ddiweddarach, ond roedd y colledion yn ddychrynllyd. Lladdwyd ac anafwyd rhyw 4,000 o filwyr.

Griffith Jones, Rhydygwystl

Cafodd Griffith Jones ei recriwtio gan y Parchedig John Williams, Brynsiencyn. Roedd John Williams - Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd - yn ffigwr dadleuol tu hwnt yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru. Bu'n ffigwr blaenllaw yn yr ymdrech i greu byddin Gymreig Lloyd George, yn recriwtio aelodau newydd ar draws y Gogledd. Yn ôl nai Griffith Jones, Geraint Jones, fe gofrestrodd Griffith yn wirfoddol mewn cwrdd dan ofal John Williams.

Image caption 'Paid a mynd Guto bach mi lladdwn nw di'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
mametz

Fe ddywedodd Nain wrtho: "Paid a mynd Guto bach, mi lladdwn nw di," ac wrth gwrs, mi gafodd ei geiriau eu gwireddu ym Mrwydr y Somme.

Cafodd Griffith ei lladd ar y 10fed, yn yr ymgais i gipio Coedwig Mametz. "Fe gafon nhw eu pladurio i'r llaid.. a'i gadael yn y llaid… chafwyd ddim corff fy ewythr Griffith fe gadawyd nhw yno".

Collodd Geraint Jones ail berthynas yn yr un frwydr. Cafodd brawd ei Nain - Ellis Pughe Williams - ei ladd hefyd. Mae enwau'r ddau ar gofeb Thiepval - cofeb i'r rhai na chafodd eu darganfod ar ôl brwydr y Somme.

William Jones, Rhosaman

Roedd William Jones yn 17 a hanner oed pan ymunodd â'r fyddin. Yn ôl ei or-wyr Cerith Jones: "Doedd e ddim yn ddigon hen.. ond roedd pawb eisiau ymladd."

Glöwr oedd William, cyn gwirfoddoli i wasanaethu ym myddin Lloyd George. Mewn sawl ystyr, roedd yn ffodus i gael gwasanaethu gyda'r Artileri. Roedd e'n gyfrifol am baratoi'r ffordd ar gyfer y milwyr fyddai'n ymosod ar Goedwig Mametz.

Image caption Roedd William Jones yn 17 a hanner oed pan ymunodd a'r fyddin
Image caption Mae Cerith Jones yn falch o brofiadau ei berthynas

Gwaith William oedd tanio ffrwydron 18 pwys tuag at y gelyn oedd yn llechu yn y coed. Er nad oedd yn ymladd ar y tir, fe welodd y meirw a'r rhai oedd yn marw, yn cael eu cludo heibio'r gynnau mawrion.

Yn ôl ei berthynas Cerith Jones, doedd e ddim wedi trafod ei brofiadau tan iddo gael ei holi gan y BBC yn ystod y 1980au. Ond, roedd yn parhau i ail-fyw ei brofiadau hyd weddill ei oes. Dywedodd: "Pan oedd e'n cysgu roedd e'n cael y flashbacks 'ma o'r cyrff yn bobman."

Ar ôl y frwydr, fe gymharodd e beth oedd yn weddill o Goedwig Mametz i "waith opencast."

Ym 1987, fe aeth William Jones yn ôl i Goedwig Mametz ar achlysur dadorchuddio cofeb i filwyr y 38ain Adran. Yn ôl Cerith Jones: "Roedd mynd nol yn galed ond yn dda iddo". Mae rhai yn dweud na ddylech chi fod yn falch o ryfel, ond d'wi yn.. dwi'n falch iawn ei fod e wedi mynd trwyddo fe ac wedi moyn 'neud e'.. Gwirfoddolwyr oedd y 38th."