Y coed sy'n cofio

Coedwig Mametz Image copyright Aled Rhys Hughes

Mae'n bosib nad oes neb yn adnabod coedwig Mametz, lle lladdwyd 4000 o filwyr Cymru, cystal â'r ffotograffydd Aled Rhys Hughes.

Mae wedi ymweld â'r safle bob Gorffennaf am chwe mlynedd mewn ymgais i gofnodi awyrgylch a theimlad y goedwig gyda'i gamera.

Mae ei luniau i'w gweld mewn arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol tan fis Rhagfyr ac mewn llyfr sydd newydd ei gyhoeddi.

Mae brwydr Mametz yn cael ei hystyried fel y gyflafan fwyaf i'r Cymry yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac i Aled mae'r cof am y gwaed a gollwyd yno 100 mlynedd yn ôl yn dal yn fyw yn y goedwig.

Fe ofynnon ni i Aled egluro sut awyrgylch sydd yn Mametz?


'Camu nôl i'r gorffennol'

Mae'n ddifrifol anodd rhoi teimlad y goedwig mewn i eiriau. Pan es i'r tro cyntaf y cyfan oni wedi ei wneud oedd darllen cerdd David Jones, In Parenthesis. Ond o'dd rwbeth am y lle oedd wedi cydio ynof fi ar unwaith fel ffotograffydd, a 'di hwnna ddim yn digwydd yn aml.

Image copyright Aled Rhys Hughes

Nath y lle fy mwrw i ar unwaith. Mae rhywbeth am y lle ac oni'n gwybod yn syth mod i'n gallu gwneud lluniau yno.

Yr awyrgylch, y teimlad, a'r teimlad o fynd o ddydd i nos wrth gamu mewn i'r goedwig - dy fod yn mynd o un byd i fyd arall.

Oni'n teimlo fy mod i mewn un lle, yna'n camu trwy'r clawdd ac oni mewn lle hollol wahanol. Mae e bach dros ben llestri i ddweud mod i'n camu nôl i'r gorffennol ond o'dd rwbeth eitha' dirdynnol am y profiad.

Dwi wedi mynd ar goll yn y goedwig fwy nag unwaith.

Image copyright Aled Rhys Hughes

Mae hi'n goedwig mor llawn, mor drwchus, unwaith ti mewn, mae fel taset ti mewn croth.

Ti ynghanol rhywle a does dim ond ti yn y goedwig. Dwi ddim wedi cwrdd â neb arall mewn 'na. Ti'n cael dy ynysu.

Beth 'o'n i eisiau o ddifri ei gael ar draws yn y lluniau oedd y syniad o shwd ti'n cael dy ynysu, fel roedd y milwyr yn teimlo eu bod nhw'n cael eu hynysu. Ti wrth dy hunan ac hefyd mae 'na rywbeth tywyll o dy flaen di: i'r milwyr, y gelyn oedd e.

Image copyright Aled Rhys Hughes

Bues i mewn 'na tua 50 o weithie i gyd a ddes i ar draws tua chwech baner draig goch wedi eu hoelio i'r coed. Oedd bob un, oni bai am un, wedi bod 'na am flynyddoedd mawr ac maen nhw fel petaen nhw wedi tyfu i mewn i'r coed, neu'r coed wedi eu cymryd nhw i mewn.

Hefyd roedd 'na bobl wedi bod yn rhoi croesau bach neu babi neu rhywbeth ynghlwm wrth rai o'r coed.

Yn fwy diddorol byth roedd pobl yn mynd â lluniau o dad-cu neu daid, neu hen ewythr neu rwbeth, a'u clymu nhw yn sownd i'r coed fel cofeb fach.

Image copyright Aled Rhys Hughes

Dwi'n teimlo'n gyffyrddus, fel pe bawn i yng Nghymru pan dwi yn y goedwig.

Does dim byd Ffrengig am y lle. Does dim byd arall ond pethau Cymreig a wedyn mae rhywun yn meddwl fod hynny'n gwneud synnwyr: mae'r coed yn tyfu ar y tir yma a heb os mae 'na filwyr dal yn y pridd fan hyn. A ddeith neb o hyd iddyn nhw byth.

Heb os ifi roedd 'na deimlad bod rhywbeth wedi digwydd fan hyn a'r mwya' ro'n i'n edrych, y mwya' hefyd ro'n i'n ei weld.

Wi'n cofio yn hollol glir cerdded trwy'r goedwig a dod o hyd i ffrwydryn byw, a meddwl beth fi fod i neud nawr?!

Image copyright Aled Rhys Hughes

Ydw i fod i gadw i fynd neu ddylwn i redeg o 'ma? Ond nes i feddwl ma' fe di bod na am 95 o flynyddoedd, 'dyw e ddim yn mynd i ffrwydro yn fy ngwyneb i heddiw.

Cafodd gymaint o filoedd o'r shelie 'ma eu taflegru mewn i'r goedwig, mae'n amlwg fod y coed yn eu gwthio lan trwy'r ddaear wrth iddyn nhw dyfu.

Ond o'n nhw'n edrych fel eu bod nhw newydd cael eu tanio, wedyn ma' pethe felna yn gwneud y lle yn hollol hollol fyw.

Ond o ran awyrgylch, mae yn gwneud ifi ofyn beth yw'r cof fan hyn? I fi, ma fe'n deimladwy iawn ac mae mor anodd sefyll nôl o'r lluniau a dweud, ydych chi'n gallu gweld hyn?

Fi'n ei deimlo fe pan rydw i yna, fi wir yn gobeithio bod peth o hwnna'n dod ar draws yn rhai o'r lluniau.


Bydd Aled Rhys Hughes yn trafod ei brofiadau ym Mametz ar raglen Stiwdio gyda Nia Roberts: Mametz Drwy Lygad y Camera ar Radio Cymru ddydd Sul, Gorffennaf 10 am 17:00.