Mae pawb yn Gymry nawr!

Ar yr un diwrnod, wnaeth tudalen flaen y Daily Telegraph ddatgan fod pawb yn Gymry... neges ychydig yn wahanol i'r arfer
Image caption Ar yr un diwrnod, ymunodd y Daily Telegraph mewn ysbryd cenedlaethol tra gwahanol i'r arfer

Mae hi wedi bod yn dair wythnos ryfeddol yn hanes pêl-droed Cymru. Ar ôl cenedlaethau lawer dan gysgod y bêl hirgron, mae campau carfan Chris Coleman wedi newid y tirwedd chwaraeon.

Ian Edwards, cyn-ohebydd Chwaraeon ITN a chyn-gyfarwyddwr marchnata Teledu Wimbledon, sy'n dyfalu beth fydd goblygiadau'r llwyddiant yn Ffrainc i ddyfodol y bêl gron yng Nghymru:


Llwyddiant annisgwyl

Pan mae papur newydd o safon fel y Daily Telegraph yn dyfynnu brawddeg tebyg i'r uchod ar y dudalen flaen, mae hi'n amlwg bod rhywbeth sylweddol, anarferol wedi digwydd. Wrth i'r holl wlad baratoi i groesawu tîm pêl droed Cymru yn ôl adre o Ffrainc ar ôl eu llwyddiant yn Euro 2016, dyma gyfle i gydnabod maint yr ymdrech, ac i ofyn sut mae'r gamp yn mynd i edrych ymhen pum, a deng mlynedd yn y dyfodol.

Teimlad hollol naturiol yw i ddiethriaid gyfathrebu efo llwyddiant annisgwyl mewn gwlad mor fach. Mae'r Saeson eisiau blasu rhan o'r balchder sy'n byrlymu drwy'r byd chwaraeon ar hyn o bryd, a hwyrach bydd awdurdodau Lloegr yn barod i ail-ddysgu mai gêm, yn y pen draw, yw pêl-droed, nid archwiliad difrifol o gyflwr gwleidyddol y wlad.

Image caption Ian Edwards: "Ymfalchïwn gyda balchder mewn enwogion o fri."

Brwdfrydedd a mwynhad

I mi, yr un peth sy'n amlwg o ddylanwad Chris Coleman ar ei garfan yw mwynhad, yr hwyl oedd ar y maes ymarfer, yr ymlacio yn y cyfweliadau efo'r wasg, a'r pleser yn eu talent ar y maes chwarae.

Hawdd iawn, yn sgil hyn, oedd i gefnogwyr a dilynwyr y tîm gysylltu mor frwdfrydig â'u ymdrechion. Roedd hyn yn rhoi nerth ac ysbrydoliaeth i'r chwaraewyr i gyrraedd nod uchel, ac i ragori ar ddisgwyliadau. Roedd Calon Lân, Hen Wlad fy Nhadau a chaneuon Max Boyce wedi eu benthyg o fyd rygbi yn hollol naturiol, ac y mae'r cyfan wedi newid balans pêl-droed rhyngwladol ym Mhrydain Fawr am flynyddoedd i ddod.

Mae Cymru yn wynebu cyfle i ail-ddechre o'r gwaelod i fyny, i gymryd rhan yn fwy selog ym mhencampwriaethau rhyngwladol o hyn ymlaen, a'r gobaith yw bod Cymdeithas Pêl-Droed Cymru yn mynd i ddefnyddio unrhyw elw ariannol o'u llwyddiant presennol, nid yn unig i adeiladu ar y momentwm, ond i fuddsoddi'n gywrain ar sylfeini'r gêm, drwy ieuenctid y wlad, ar gyfer llwyddiant mwy parhaol yn y dyfodol. A phopeth gyda gwên ar eu hwyneb. Am y tro, ymfalchïwn gyda balchder mewn enwogion o fri.

Image caption Mae'r diolch i'r arwyr yma am ysbrydoli'r genedl a rhoi sylfaen gref i bêl-droed Cymru