Stabæk 0-1 Gap Cei Connah

Gap Connah's Quay v Stabæk Image copyright NCM Media

Mae Gap Cei Connah wedi mynd drwodd i ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa ar ôl curo Stabæk o Norwy o 1-0.

Di-sgor oedd canlyniad y cymal cyntaf, ond fe wnaeth Callum Morris sicrhau'r fuddugoliaeth i'r tîm o Uwch Gynghrair Cymru yn yr hanner cyntaf.

Bydd Cei Connah yn wynebu un ai FK Bokelj (Montenegro) neu FK Vojvodina (Serbia) yn y rownd nesa'.

Bydd cymal cyntaf y gêm honno'n cael ei chwarae ar 15 Gorffennaf gyda'r ail i ddilyn yr wythnos wedyn.