Y Bala 0-2 AIK

bala
Image caption Rheolwr Y Bala, Colin Caton

Mae taith Y Bala yng nghynghrair Europa wedi dod i ben ar ôl colli o 4-0 yn erbyn AIK Solna.

Fe gollodd tîm Colin Caton o 2-0 yn y cymal cyntaf i'r tîm o Sweden, ac o'r un sgôr nos Iau.

Denni Avdic a Carlos Strandberg sgoriodd i'r ymwelwyr ar gae Y Rhyl, y Belle Vue.

Mae'r Bala yn wynebu'r Drenewydd yn eu gêm gyntaf o'r tymor ar 13 Awst.