Mair Carrington Roberts: Lle i drafod

Mair Carrington Roberts Image copyright Arwyn Roberts
Mair Carrington Roberts
Image caption Mair Carrington Roberts gyda'r Fedal Goffa

Mae Medal Goffa Syr T.H. Parry-Williams eleni'n cael ei rhoi i Mair Carrington Roberts, sy'n adnabyddus i genedlaethau o eisteddfodwyr am ei gwaith ym myd y 'pethe'.

Mae'r wobr yn cael ei rhoi bob blwyddyn i rywun sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.

Er yn byw yn Llanfairpwll ar Ynys Môn erbyn hyn, bu Mair yn byw a gweithio yn y gogledd ddwyrain am flynyddoedd, lle bu'n hyfforddi, dysgu a pharatoi cannoedd o blant a phobl ifanc ar gyfer cystadlaethau a pherfformiadau, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cyn iddi gael ei gwobrwyo mewn seremoni yn y Brifwyl ddydd Mawrth, cafodd Cymru Fyw gyfle i'w holi.

Beth mae'r fraint o dderbyn Medal Goffa Syr T.H. Parry-Williams yn ei olygu i chi?

"Dwi'n gwerthfawrogi'n arw iawn 'mod i'n cael medal am wneud gwaith sy' wedi rhoi cymaint o bleser i mi. Mae'r holl bethau cerddorol 'dwi wedi gwneud wedi cyfoethogi 'mywyd i, a gobeithio bywydau eraill hefyd. 'Doedd cerddoriaeth ddim yn rhan o 'mhlentyndod i ond pan es i i'r coleg yn Aber, nes i ddechra' ymddiddori. Nes i fynd yno ar ysgoloriaeth i wneud Cymraeg, ac wedyn gwneud cerdd yn y diwedd. Roedd y cyfuniad o'r ddau beth yn golygu, wrth gwrs, bod gen i ddiddordeb mewn rhoi geiriau ar gainc - mae o'r peth naturiol i'w wneud os ydych chi wedi cael hyfforddiant yn y ddau bwnc.

"Mae 'na gymaint yn gwneud y pynciau hyn y dyddiau yma. Ar ôl cael yr addysg yna, nes i ddechra' gosod a ffurfio corau a phartïon, ac roedd hynny wedi gwneud gwahaniaeth. 'Swn i'n licio gweld datblygiad eto - mae angen mwy o osodwyr. Mae pobl yn dal i ofyn i mi wneud. Mae angen meithrin gosodwyr. Dwi'n ddyledus iawn i Aled Lloyd Davies - mi fu o'n andros o gefnogol ac yn help mawr. Ond yn y diwedd mae pobl yn ffeindio'u ffordd eu hunain."

'Da chi wedi helpu cynifer o blant a phobl ifanc ym myd y 'pethe' ers blynyddoedd - oes digon o gyfleon iddyn nhw'r dyddiau hyn?

"Dwi'n rhyfeddu dweud gwir, yn enwedig yn yr ardal yma, lle mae Côr Ieuenctid Môn, a Cefin Roberts yn gweithio mor galed hefo Glanaethwy ac ati, mae'r plant yn lwcus dros ben. Ac mae pethau fel Band Biwmares ac ati. Mae'r cyfleoedd yno ac ar y cyfan, ma' pobl ifanc yn eu cymryd nhw. Mae 'na ganolfannau sy'n arbenigo hefyd, fel Canolfan Gerdd William Mathias. Mae'r bobl ifanc 'ma yn cyrraedd safonau rŵan lle na fydde nhw'n eu cyrraedd petai nhw ddim yn mynd i'r canolfannau yma. Mae'r cyfleoedd yno a'r athrawon yno iddyn nhw. Mae pethau wedi gwella , ond ydy'r pwyslais yn mynd i fynd o'r ysgolion? Os ydy offerynnau, er enghraifft, yn diflannu o ysgolion, mi fydde hynny'n drychinebus.

"Mae 'na bwysau ar bobl ifanc y dyddiau yma, wrth gwrs. Ond mae'r rhai sydd â'r talentau a'r brwdfrydedd yn gwneud y cwbl, er y pwysau arnyn nhw.

"Mae 'na gyfle i gystadlu mewn meysydd ehangach na dim ond yr Eisteddfod Genedlaethol a'r eisteddfodau bach rŵan, ac mae pobl ifanc yn sicr yn elwa o hynny. Mae'n rhaid mynd allan i'r byd mawr os am lwyddo, ac mae rhai o'r bobl ifanc 'ma yn brofiadol iawn."

Image caption Cystadleuwyr yng Ngŵyl Cerdd Dant 2014 yn Rhosllannerchrugog

Sôn am eisteddfodau, ydych chi'n credu bod dyfodol eisteddfodau bach Cymru'n ddiogel?

"Maen nhw'n bwysig ofnadwy ond dwi ddim yn meddwl bod nhw'n ffynnu cymaint ag oeddan nhw rai blynyddoedd yn ôl. Efallai bod hynny'n rhannol achos bod plant mor brysur hefo gymaint o alwadau eraill.

"Ond mae'r rhai sydd yn defnyddio llwyfannau'r eisteddfodau 'ma yn sicr yn elwa ac yn cael cyfle i gystadlu mewn nifer o feysydd. Mae ambell un yn dweud bod rhai sy'n gwneud cerdd dant, bod o'n amharu ar eu sgiliau cerddoriaeth glasurol nhw, ond 'dwi ddim credu hynny o gwbl. Mae un grefft yn elwa o'r llall. Cym'rwch Bryn Terfel, er enghraifft, mae'r ffordd mae o'n dehongli geiriau ar lwyfannau operâu yn deillio i ryw raddau oherwydd bod o wedi ymhel gyda cherdd dant a barddoniaeth ers pan yn ifanc iawn. Mae o'n hyfforddiant arbennig iawn.

O ran cerdd dant, ydych chi'n teimlo bod digon yn cael ei wneud i symud gyda'r oes?

"Mae 'na le i drafod hyn yn sicr. Mae'n anodd iawn - mae'n rhaid cadw golwg ar wreiddyn y diwylliant, mae'n rhaid i'r ynganu a'r llefaru fod yn hollbwysig ym mhob dehongliad. Adrodd i gyfeiliant ydy o bron.

"Dwi yn dechra' poeni dipyn bach. Ar un adeg, ro'n i'n teimlo bod cyfalawon gorflodeuog yn tynnu oddi wrth y grefft o lefaru. Ond i ryw raddau be' sy'n poeni fi rŵan ydy fod o ambell waith yn rhy unffurf i fynegi teimladau cryf a theimladau dwys.

"Dwi'n meddwl bod 'na fwy o le i ddehongli yn ddyfnach , yn fwy dramatig. 'Dwi ddim eisiau iddo fynd gormod i'r pegwn arall chwaith - ond mae'n rhaid osgoi bod datganiadau yn unffurf. Y ffordd ymlaen hwyrach yw newid 'chydig bach ar y lleisio. Os ydych chi eisiau ennill cystadlaethau, 'da chi'n mynd i chwarae'n saff. Yn anffodus, mae 'na elfen rhy gystadleuol wedi mynd hefo lot o bethau, gan gynnwys y byd cerdd dant.

"Ro'n i'n bryderus ar y dechra' pan oedd 'na symudiad i gael cyfalawon mwy modern, oedd yn cael eu creu ar alawon oedd ddim ar yr un arddull. Mae'n rhaid i bob cyfalaw adlewyrchu'r gainc. Fedrwch chi ddim cael newidiadau cerddorol heb fod y ceinciau'n symud 'mlaen ac mae rhai o'r ceinciau yn symud 'mlaen.

"Mae Gwennant Pyrs a finna' wedi rhannu'r ceinciau yng nghasgliad 'Cerddi a Cheinciau'r Cwm' ar eiriau Geraint Lloyd Owen. Dwi'n gobeithio bydd y gwaith yn hybu'r grefft o osod, mae'r ceinciau wedi'u gwneud yn arbennig i'r geiriau."

Image caption Beirniadu: Mae'n bwysig paratoi'n drwyadlu, medd Mair Carrington Roberts

Ydy'r byd beirniadu'n iach? Oes digon o bobl ifanc yn mentro i'r maes?

"Mae 'na yn sicr ddigon fedre wneud. Mae llawer wedi cystadlu'n fwy eang, mwy na llawer ohonon ni sy' wedi bod wrthi'n beirniadu. Mae 'na lot o waith paratoi pan yn beirniadu wrth gwrs - mae'n rhaid bod yn barod i wneud hynny. Dwi wastad wedi mwynhau'r paratoi dweud gwir.

"Mae'r grefft o feirniadu'n wahanol - mae rhywun yn dysgu o brofiad sut i ddidoli. Dwi'n credu bydde fe'n beth da i rai iau weithio gyda rhai mwy profiadol. Mae angen paratoi fel bod chi'n gwybod be' 'da chi'n chwilio amdano fo ond hefyd bod yn agored i ddehongliadau eraill. Mae rhai pobl yn casáu'r peth - rhaid bod yn berson go lew o gryf.

"Dwi wedi bod yn lwcus iawn. Dwi erioed wedi cael neb yn gwneud bywyd yn annifyr. Ond hefyd 'dwi wedi gwneud yn siŵr, be' bynnag ydw i'n beirniadu, 'mod i'n rhoi'r rhesymau i gyd lawr ar y papur. Os ydyn nhw ddim yn gyntaf, mae eisiau gwybod pam. 'Da chi'n gweld yn aml mewn beirniadaethau - pobl sy' dim wedi cael llwyfan a does dim yn bod yn y feirniadaeth. Mae'n rhaid rhoi ryw reswm yn rywle - hyd yn oed os mai'r rheswm ydy bod y safon yn uchel. Mae 'na ryw fath o ddadl sy'n bosib i'w rhoi - dydy o ddim i gyd yn chwaeth."