Ar daith drwy hanes Sir Fynwy

Aeth y cynhyrchydd Wyn Williams yn ôl i fro ei blentyndod i greu rhaglen arbennig am ardal y Fenni fydd yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru ar drothwy'r Eisteddfod Genedlaethol. Dyma rai o'i argraffiadau wrth iddo ymweld unwaith eto â'r hen sir.

Image copyright Wyn Williams
Image caption Eglwys Hanover yn Llanofer

Er ein rhagfarnau fel siaradwyr Cymraeg am dir y ffin, mae'r iaith wedi chwarae rôl amlwg iawn yn hanes Sir Fynwy, a heddiw mae plant yr ysgolion Cymraeg lleol yr un mor debyg â'u cyndeidiau i allu deall yr enwau sydd â tharddiad - os nad sillafiad - Cymraeg.

Wedi teithio i lawr o'r Canolbarth, od tu hwnt oedd gweld arwyddion ffyrdd megis Llanvihangel Gobion! Treigliad annaturiol o Langatwg Feibion Abel yw Llangattock-Vibon-Avel, sillafiad nad sy'n adlewyrchiad teg iawn o'r hen Wenhwyseg, y dafodiaith leol sydd wedi gadael ei fro ddifancoll ers meitin.

Cyfle i ailfeddiannu enwau lleol

Wrth i'r Gymraeg ail-gydio yn y tir trwy addysg Gymraeg i bawb, daw'r cyfle hefyd i ailfeddiannu enwau lleol. Yn 1965 cafodd etifeddiaeth yr argae ger Llandegveth ei adlewyrchu yn fwy teg gan yr enw Llandegfedd.

Enwyd Ysgol Gwynllyw oherwydd mai dyna'r dyn oedd yn feistr ar y tir rhwng afonydd y Rhymni a'r Wysg yn ystod y 5ed ganrif, ardal bydden i'n dueddol o alw'n Gwent hyd heddiw.

I fod yn deg, mae'n weddol annelwig ble mae Sir Fynwy yn gorffen a Gwent yn dechrau, cwestiwn a oedd yn aml yn cael ei godi gan yr awdur lleol, Raymond Williams a oedd â diddordeb mawr ym meddylfryd ac ystyr ffiniau.

Dechrau ein taith oedd Penperlleni, enw sy'n awgrymu'n gryf mor ffrwythlon yw'r ardal hwn sydd ar ben y berllan. Mae ardal y Goetre yn Sir Fynyw yn lle mynwesol i fy nheulu, tir hoffus bro fy mhlentyndod. Dim ond ers 1996 mae'r enw Sir Fynwy ei hun wedi cynrychioli y rhan yma o'r tir, tra bod y rhanbarth 'hanesyddol' yn ymestyn hyd Rhymni yn y Caerffili fodern.

O Goetre, bu ein taith gerdded ar hyd y gamlas fyrraf ym Mhrydain i Lanofer - sydd ag eglwys sy'n awgrymu yn gryf taw o'r Hanover-iaid daeth yr enw yn hytrach na Ofer Sant. Chwiliwch yn ofer amdano os anghytunwch â mi!

Image copyright Wyn Williams
Image caption Y gamlas sy'n llifo rhwng Goetre a'r Fenni

Cawsom ein hatgoffa yno o brysurdeb mawr Gwenynen Gwent. Mae'n debyg i Augusta Hall gymryd ei henw o Fryngwenin sydd hefyd yn gyfagos i'r Fenni - yn ogystal â'i phrysurwch.

Craith neu fendith

Mae enwau strydoedd megis craith neu fendith ar unrhyw le, a gwelwn fod yr enw Traitor Street yn nhre'r Fenni yn cofnodi digwyddiad pan gafodd Owain Glyndŵr ei adael i mewn i'r dref gan rywun a gafodd ei ystyried - er yn Gymro - yn fradwr.

Bydd cefnogwyr rygbi yn gyfarwydd gyda'r enw Landsdown Road - er taw'r clwb pêl-droed fydd yn cynnal gigs Cymdeithas yr Iaith yr haf hwn!

Bydd yr Ysgubor Wen yn ein hatgoffa taw tref marchnad yw'r Fenni sy'n parhau'n boblogaidd iawn efo brodorion y cymoedd cyfagos lle mae yna fws wythnosol arbennig ar gyfer y daith defod-aidd hwnnw.

Image copyright Kiran Ridley
Image caption Y neuadd farchnad brysur yn Y Fenni

Yna Coed Morgan - pwy oedd ef? Efallai'n gyn-daid i'r awdur Richard Morgan sydd eisoes wedi ymchwilio enwau'r ardal - os am wybod mwy cyn dod draw i'r Fenni ar ddechrau'r Eisteddfod ei hun!

Bydd mwy o hanesion o ardal Y Fenni yn cael eu rhannu mewn rhagolwg arbennig i'r Eisteddfod Genedlaethol ar BBC Radio Cymru ar ddydd Gwener 29 Gorffennaf am ganol dydd.