Lluniau: Croeso nôl!

Mae wedi bod yn fis bythgofiadwy i Gymru wrth i'r tîm pêl-droed cenedlaethol gyrraedd rownd gyn-derfynol Euro 2016.

Mae carfan Chris Coleman wedi codi ysbryd y genedl ac ar ddydd Gwener 8 Gorffennaf bu dathliadau mawr yng Nghaerdydd wrth iddyn nhw ddod adref o Ffrainc.

Dyma rai o uchafbwyntiau'r diwrnod trwy lens Sioned Birchall, ffotograffydd Cymru Fyw yn y digwyddiad.


Image caption Aaron Ramsey yn tynnu hunlun a un o dyrrau Castell Caerdydd
Image caption Dal y foment ar gof a chadw
Image caption Chris Coleman a'i gyd-hyfforddwr Osian Roberts yn camu allan o'r castell
Image caption Bws y garfan yn mynd am y stadiwm
Image caption Y garfan ar ben y bws, gyda Bale, Ramsey a Hennessey yn arwain ar y blaen
Image caption Môr o goch ar Heol Santes Fair
Image caption Bloeddiwch dros Gymru!
Image caption Plant wedi gwirioni wrth weld eu harwyr yn mynd heibio
Image caption Fe drodd Caerdydd yn goch am y diwrnod
Image caption Pawb yn rhan o gyffro'r diwrnod
Image caption Tai yn cael eu haddurno ar hyd y daith
Image caption Yr Heddlu yn dangos eu teyrngarwch
Image caption Nicky Wire a Sean Moore o'r Manic Street Preachers yn camu i'r llwyfan
Image caption Y Manics Street Preachers yn canu 'Together Stronger' ac ambell glasur arall
Image caption Y Galactico Gareth Bale yn cael ei gyflwyno i'r dorf
Image caption James Collins ar ei ffordd i ganol y cae
Image caption Cefnogwyr o bob oed yn mwynhau yn Stadiwm Dinas Caerdydd
Image caption Y chwaraewyr canol cae Aaron Ramsey a Jonny 'Joniesta' Williams