Speedway Grand Prix: Ffyrdd yng nghanol Caerdydd ar gau

millenium
Image caption Yr olygfa yn y Stadiwm Principality yn ystod y Speedway Grand Prix

Bydd ffyrdd yng nghanol Caerdydd ar gau ddydd Sadwrn wrth i'r brifddinas groesawu 45,000 o bobl ar gyfer y Speedway Grand Prix.

Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal yn Stadiwm Principality a bydd sawl stryd ar gau.

Bydd Stryd Fawr Caerdydd, Westgate Street, Quay Street, Guildhall Place, Golate, Park Street a Scott Road ar gau rhwng 15:00 a 21:30.

Fe fydd system giwio yn ei le hefyd yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd.

Er y bydd safle tacsi Mill Lane ar agor, bydd yr un ar Heol y Santes Fair ar gau rhwng 15:00 a 21:30.

Image copyright Speedway GP