Morgannwg yn curo Middlesex o naw wiced yn Richmond

Mark Wallace Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Morgannwg wedi curo Middlesex o naw wiced gyda 21 pêl yn weddill.

Roedd ganddyn nhw darged o 145 i'w gyrraedd yn Richmond ac fe wnaeth Mark Wallace (69 ddim allan) a David Lloyd (49) ychwanegu 125 i'r wiced gyntaf.

Daeth Eoin Morgan a Ryan Higgins i'r adwy i Middlesex gan daro 58 a 57 ar ôl dechrau trychinebus, gan golli pum wiced am 39 wedi wyth pelawd.

Fe gafodd Shaun Tait, Timm van der Gugten a Michael Hogan ddwy wiced yr un i Forgannwg.