Parêd 4,000 o babïau i gofio am frwydr Coedwig Mametz

Disgyblion Ysgol Stryd y Rhos Image copyright Grŵp Cymunedol Rhuthun
Image caption Bydd disgyblion Ysgol Stryd y Rhos ymysg y rheiny fydd yn cario'r pabïau fel rhan o'r parêd

Cafodd parêd gyda 4,000 o babïau ei gynnal yn Sir Ddinbych ddydd Sadwrn fel rhan o ddigwyddiadau coffa'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Fe wnaeth plant ysgol o Ruthun helpu i wneud y pabïau i nodi canrif ers brwydr Coedwig Mametz.

Mae'n rhan o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn y dref, sydd wedi cael eu trefnu gan Grŵp Cymunedol Rhuthun.

Dywedodd y trefnydd, Ron Bell bod y digwyddiadau coffa "â'r bwriad o ddod a phob cenhedlaeth at ei gilydd".

Image copyright Grŵp Cymunedol Rhuthun
Image caption Fe wnaeth yr artist Judith Wood helpu'r plant i greu'r pabïau

Cafodd 4,000 o filwyr o Gymru eu lladd neu eu hanafu yn ystod pum diwrnod o frwydro yng Nghoedwig Mametz ym mis Gorffennaf 1916.

"Y gobaith yw helpu pobl, nid yn unig i gofio'r Rhyfel Byd Cyntaf ond i ddysgu am yr aberth a wnaeth cenedlaethau'r gorffennol ar gyfer eu dyfodol," meddai Mr Bell.

Mae'r digwyddiadau coffa wedi eu hariannu gan raglen Rhyfel Byd Cyntaf Cronfa Dreftadaeth y Loteri ac Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr.

Straeon perthnasol