Treiathlon Penwythnos Cwrs Hir yn Sir Benfro

Penwythnos Cwrs Hir Image copyright Eirian Price/Bluestone
Image caption Fe ddechreuodd y digwyddiad ddydd Gwener ar Draeth y Gogledd yn Ninbych-y-pysgod

Mae Sir Benfro yn cynnal un o'r treiathlonau mwyaf heriol yng Nghymru y penwythnos yma - Y Penwythnos Cwrs Hir.

Gan ddenu rhai o athletwyr gorau'r byd, fe ddechreuodd y digwyddiad tri diwrnod ddydd Gwener gyda chystadleuwyr yn nofio 2.4 milltir o Draeth y Gogledd yn Ninbych-y-pysgod.

Bydd yr athletwyr yn beicio 112 milltir ddydd Sadwrn cyn rhedeg marathon llawn ddydd Sul.

Mae tua 200 o gystadleuwyr yn cymryd rhan ac mae disgwyl iddo ddenu miloedd o wylwyr.

Y llynedd, dim ond hanner yr athletwyr wnaeth lwyddo i gwblhau'r cwrs.

Image copyright Gareth Davies Photography