Cais cynllunio am sinema ac ardal bwytai yn Hwlffordd

Datblygiad Hwlffordd Image copyright Fletcher Rae (UK) Ltd
Image caption Dyluniad artist o'r datblygiad arfaethedig

Mae cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno i Gyngor Sir Penfro ar gyfer sinema ac ardal bwytai yn Hwlffordd.

Mae'r datblygwyr, Conygar eisiau adeiladu'r datblygiad ar dir ar Heol Slade.

Roedd cynllun yn y gorffennol i adeiladu archfarchnad Sainsbury's ar y safle ond fe wnaeth y cwmni roi'r gorau i'r prosiect y llynedd.

Byddai'r datblygiad yn cynnwys sinema pum sgrîn, pum bwyty a maes parcio ar gyfer 168 o geir.

Dywedodd y cyngor eu bod yn croesawu sylw gan y cyhoedd ar y cais.