Gweinidogion Cyllid yn cyfarfod i drafod effaith Brexit

Gweinidogion Cyllid
Image caption Mark Drakeford, Derek Mackay a Máirtín Ó Muilleoir

Bydd Gweinidogion Cyllid Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cyfarfod ddydd Llun i drafod effaith refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ar gyllid cyhoeddus.

Fe fydd Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford yn croesawu Ysgrifennydd Cyllid Yr Alban, Derek Mackay a Gweinidog Cyllid Gogledd Iwerddon, Máirtín Ó Muilleoir i Gaerdydd ar gyfer y trafodaethau.

Bydd y tri gweinidog yn trafod effaith y bleidlais ar gyllid cyhoeddus.

Yn siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Mr Drakeford: "Yn sgil canlyniad y refferendwm mae goblygiadau amlwg i'n gwledydd ac i'n cyllid cyhoeddus, gan gynnwys cyllideb Cymru.

"Gan fod gymaint o ansicrwydd ar ôl y refferendwm, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn dod at ein gilydd i drafod sut y gallwn gydweithio i godi ein pryderon gyda Llywodraeth y DU."