Gwynfor ac is-etholiad '66

Gwynfor Evans ar fin annerch y dorf ar ól ei fuddugoliaeth hanesyddol yn is-etholiad Caerfyrddin, 1966
Image caption Gwynfor Evans ar fin annerch y dorf ar ól ei fuddugoliaeth hanesyddol yn is-etholiad Caerfyrddin, 1966

Mae buddugoliaeth Gwynfor Evans yn is-etholiad Caerfyrddin yn cael ei ystyried ymhlith y digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes gwleidyddiaeth Cymru.

Mae mab Gwynfor, Y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor wedi golygu cyfrol, Gwynfor: Cofio '66 (Gwasg Gomer), sy'n gasgliad o atgofion am yr ymgyrch arweiniodd at y golygfeydd dramatig yn sgwar Caerfyrddin ar 14 Gorffennaf 1966.

Dyma i chi flas o'r cyfnod y cipiodd Plaid Cymru eu sedd gyntaf yn San Steffan:


Cafodd yr is-etholiad ei alw oherwydd marwolaeth y Fonesig Megan Lloyd George, merch y cyn Brif Weinidog David Lloyd George, fu'n cynrychioli'r etholaeth ers 1957. Felly am yr eildro mewn ychydig dros dri mis, aeth etholwyr Caerfyrddin i'r gorsafoedd pleidleisio.

"Roedd y farwolaeth yn ddisgwyliedig. Ro'dd Y Fonesig Lloyd George wedi bod yn wael ers rhai misoedd," meddai'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, wrth hel atgofion am y cyfnod.

"Roedd fy Nhad yn ei hedmygu hi fel person er ei fod yn anghytuno gyda'i gwleidyddiaeth hi. Fe wnaethon nhw gydweithio yn agos rhai blynyddoedd ynghynt yn ystod ymgyrch 'Senedd i Gymru'."

'Ail da'

Yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mawrth roedd Llafur wedi ennill bron i deirgwaith gymaint o bledleisiau â Phlaid Cymru, ond roedd 'na drefniadau manwl ar y gweill i geisio gau'r bwlch.

Peter Hughes Griffiths oedd un o ymgyrchwyr ifanc y blaid ar y pryd. Meddai: "Cyril Jones o Bumpsaint oedd asiant Gwynfor, ac ro'dd e wedi trefnu 22 o gyfarfodydd cyhoeddus ymhob rhan o'r etholaeth.

"Ro'dd Islwyn Ffowc Elis, yr awdur adnabyddus, hefyd yn allweddol i'r ymgyrch. Roedd e yn gyfrifol am gyhoeddiadau'r blaid. Mewn oes pan nad oedd yna gymaint o sylw i etholiadau ar y teledu a radio roedd y negeseuon gafodd eu cyhoeddi yn bwysig tu hwnt."

Mae Guto Prys ap Gwynfor yn cofio dyddiau cynnar yr ymgyrch: "Ar y pryd ro'n i'n ddisgybl ysgol yn Ysgol Pantycelyn, Llanymddyfri. Gan bod yr arholiadau ar ben ro'n i ar gael i helpu'r ymgyrch. Roedd Cyril Jones a fy Nhad yn ffyddiog y byddai'r canlyniad yn well i'r Blaid na'r Etholiad Cyffredinol ac roedden nhw yn siarad yn nhermau dod yn ail da. Bydde hynny wedi bod yn ganlyniad rhagorol o gofio'r bwlch oedd yna rhwng Plaid Cymru a'r Rhyddfrydwyr."

Image caption Sgwâr Caerfyrddin dan ei sang i glywed canlyniad syfrdanol is-etholiad Caerfyrddin, 14 Gorffennaf 1966

Ar garreg y drws roedd yna le i gredu bod "ail da" yn bosibl. "Roedd 'na griwiau mawr o bobl ifanc wrthi'n canfasio ac roedd 'na deimlad bod Gwynfor wedi gwneud yn dda," meddai Peter Hughes Griffiths, a oedd ar y pryd yn athro yn Aberystwyth ac yn ymgyrchu ar ran Gwynfor yn Drefach, Felindre.

"Er yr ymateb, doedd ganddom ni ddim syniad bod 'na rhywbeth mawr ar droed tan noson cyn yr etholiad. Roedd 'na ddigwyddiad wedi ei drefnu gyda Gwynfor yn Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin. Ro'dd 'na fwy tu fas na tu mewn."

"'Chydig iawn welais i ar fy Nhad yn ystod yr ymgyrch," meddai Guto Prys ap Gwynfor. "Roedd 'na dri neu bedwar o gyfarfodydd bob nos. Roedd e yn llwyr ganolbwyntio ar yr ymgyrch. Ro'n i allan gyda chriwiau o bobl ifanc o fore gwyn tan nos yn gosod posteri ac yn ceisio gwneud yn siŵr nad oedd y Rhyddfrydwyr yn eu tynnu i lawr!"

'Diwygiad'

"Roeddem ni hefyd yn dilyn yr ymgeiswyr eraill ac yn eu 'heclo'," meddai Guto Prys ap Gwynfor. "Roedd hynny yn un o draddodiadau ymgyrchoedd etholiadol y cyfnod!

"Rwy'n cofio'r cyfarfod yn y Lyric. Ro'dd e'n wefreiddiol gyda ymdeimlad o gyffro drwy'r lle i gyd... ro'dd e fel cyfarfod diwygiad."

Y diwrnod canlynol, sef diwrnod y bleidlais, roedd Guto Prys yn cynrychioli Plaid Cymru yng ngorsaf bleidleisio Gwynfor.

"Dwi'n cofio fy ffrindiau yn rhoi lifft i mi a'r derfyn dydd yn ôl i Gaerfyrddin ar gyfer y cyfri. Roedd torf enfawr wedi crynhoi yn y sgwâr. Roedden nhw mewn ysbryd uchel ac yn canu. Roedd hyn yn arwydd bod rhywbeth yn y gwynt, ond doedd gen i ddim syniad ar y pryd y byddai'r canlyniad mor ysgytwol."

Roedd gwell syniad gan Gwynfor ei hun o'r hyn oedd o'i flaen gan i Elwyn Roberts, Ysgrifennydd Plaid Cymru, ddod allan o'r cyfri i awgrymu ei fod "i mewn".

'Mewn breuddwyd'

"Deallais yn ddiweddarach bod Mam wedi cael neges gartre'r noson honno: 'Dewch lawr 'da chi, mae Gwynfor mewn!'," meddai Guto Prys. "Do'dd dim amcan 'da fi beth oedd yn digwydd gan fy mod i gyda fy ffrindiau ar y sgwâr, felly pan gafodd y canlyniad ei gyhoeddi roedd hi'n sioc. Ffrwydrodd y lle. Ro'n i mewn breuddwyd... y gorfoledd, a'r cyffro o amgylch... mae'n anodd ei ddisgrifio.

"Drannoeth ro'n i a chriw o fechgyn ifanc yn gyrru car rownd yr etholaeth yn canu corn a gweiddi. 'Naethon ni ddim cyrraedd gartre tan oriau mân y bore.

"'Naeth e ddim gwawrio arna' i tan i ni fynd gyda Dad i San Steffan 'chydig ddyddiau yn ddiweddarach sut effaith fyddai'r fuddugoliaeth yn ei gael arnom ni fel teulu."

Image caption Gwynfor a'i wraig Rhiannon yn cyfarch yr ethowlyr ar ôl cipio sedd gyntaf Plaid Cymru yn San Steffan

Hiraeth

Mi wnaeth Peter Hughes Griffiths olynu Cyril Jones fel asiant Gwynfor Evans erbyn Etholiad Cyffredinol 1970.

"Roedd y golygfeydd yn 1966 yn rhyfeddol," meddai. "Roedd yna gannoedd o gefnogwyr a Gwynfor yn cael ei gario ganddyn nhw ar eu hysgwyddau. Mae 'na stori o gwmpas y lle mai'r Parchedig Eric Grey, Brechfa, oedd yr unig un oedd yn ddigon hirben i fynd at y bwcis a rhoi swllt ar Gwynfor!"

"Mae gen i hiraeth am y cyfnod," meddai Guto Prys ap Gwynfor. "Roedd e'n gyfnod mor gyffrous. Roedd 'na symudiadau ymhlith pobl ifanc ar hyd a lled Ewrop a'r Unol Daleithiau oherwydd rhyfel Fietnam. Ro'dd 'na ganghennau ieuenctid gan Blaid Cymru ar draws Sir Gâr. Roedd 'na gyffro gwleidyddol ac ro'dden nhw yn dilyn y datblygiadau.

"Dyw'r un ymdeimlad ddim yn bodoli heddi'. Dyw pobl ifanc ddim yn breuddwydio'r un breuddwydion. Mae hi'n haws y dyddie hyn i osgoi cyfrifoldeb."

Gwynfor: Cofio '66, Gol. Guto Prys ap Gwynfor (Gwasg Gomer)

Image copyright Getty Images
Image caption Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru yn cyrraedd y senedd yn San Steffan