Airbus: Cwmni Virgin Atlantic yn prynu 12 awyren

Airbus A350-1000 Image copyright Airbus

Mae cwmni awyr Virgin Atlantic wedi cyhoeddi ei fod am brynu 12 awyren Airbus A350-1000 mewn cytundeb £3.4 bn.

Mae adain awyrennau cwmni Airbus yn cael eu hadeiladu ym Mrychdyn, Sir Y Fflint.

Dywedodd prif weinidog Prydain, David Cameron fod " hyn yn newyddion da er mwyn sicrhau swyddi yn y diwydiant awyrennau."

"Rwy'n croesawi'r newyddion am fuddsoddiant Virgin Atlantic. Yn ogystal â bod yn newyddion da i deithwyr, mae'n newyddion da iawn ar gyfer swyddi yn y DU."

Bydd yr awyrennau newydd yn hedfan o feysydd awyr Heathrow a Gatwick o 2019 ymlaen.

Dywedodd Craig Kreeger prif weithredwr cwmni Virgin Atlantic eu bod wedi dewis yr A350-1000 am ei fod yn un o'r awyrennau mwyaf modern- yn dechnolegol, yn amgylcheddol glan ac yn cynnig seddi mwy o faint i'w cwsmeriaid.

Fydd yr awyrennau newydd yn ganolog i'w gwasanaeth busnes a hamdden meddai.