Ymchwilio i lofruddiaeth wedi ymosodiad Caerfyrddin

Heddlu

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i lofruddiaeth yn dilyn ymosodiad difrifol yng Nghaerfyrddin ddiwedd Mehefin.

Roedd Timothy John, 47, yn yr ysbyty wedi'r ymosodiad ar Heol Morgan, Caerfyrddin ar 27 Mehefin, ond bu farw ar 9 Gorffennaf.

Fe wnaeth yr heddlu gadarnhau eu bod bellach yn ymchwilio i achos o lofruddiaeth.

Mae dyn 21 oed o ardal Caerfyrddin gafodd ei gyhuddo o geisio llofruddio ar ôl yr ymosodiad yn parhau i fod yn y ddalfa.