Pedwar yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad Sir Fynwy

Heddlu

Mae pedwar o bobl yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn Sir Fynwy.

Bu ffordd yr A4042 ynghau yn Llan-ffwyst ger Y Fenni wedi'r gwrthdrawiad am 16:40.

Dywedodd Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru bod dau berson wedi eu torri o gerbyd gydag offer arbenigol.

Mae dau berson wedi eu cludo i Ysbyty Nevill Hall, a'r ddau arall yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad.