'Dirmyg' i'r Gymraeg yng Ngharchar Wrecsam

Carchar
Image caption Mae disgwyl i garchar HMP Berwyn yn Wrecsam agor yn 2017

Mae'r Aelod Seneddol Liz Saville Roberts wedi beirniadu'r Weinyddiaeth Gyfiawnder am beidio recriwtio staff dwyieithog ar gyfer y carchar newydd yn Wrecsam.

Yn ôl Ms Saville Roberts, llefarydd Plaid Cymru ar y Swyddfa Gartref, mae hysbyseb swyddi diweddar ar gyfer carchar HMP Berwyn wedi "peidio â chysidro'r Gymraeg fel bod yn angenrheidiol".

Roedd hyn yn dangos "dirmyg llwyr" meddai.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y byddai'r Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu siarad gan rai aelodau o staff ymhob ardal o'r carchar.

'Anghenion ieithyddol'

Dywedodd Liz Saville Roberts: "Dyma enghraifft arall o ddiffyg llwyr Llywodraeth San Steffan i ddeall anghenion ieithyddol penodol pobl Cymru.

"Mae'n darparu tystiolaeth bellach bod gofynion unigryw Cymru o ran darpariaeth cyfiawnder yn cael ei danseilio gan ddeddfwrfa bell heb unrhyw syniad go iawn o rôl bwysig yr iaith Gymraeg ym mywyd Cymru."

"Sut gall y Weinyddiaeth Gyfiawnder gyfiawnhau hysbysebu swyddi mewn carchar yng Nghymru, a fydd yn ddi-os yn gartref i garcharorion sy'n siarad Cymraeg, heb fod angen i'r staff gael gafael ar yr iaith? Ni ddylai'r Gymraeg gael ei thrin fel rhywbeth ychwanegol a dewisol."

"Rwy'n galw ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder i dynnu'r hysbysebion swyddi hyn yn ôl ac ailystyried eu penderfyniad i hysbysebu swyddi yng Ngharchar Berwyn heb roi ystyriaeth briodol i'r iaith Gymraeg."

"Byddaf hefyd yn disgwyl i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder bennu pa gyfran o'i staff y disgwylir iddynt feddu ar sgiliau iaith Gymraeg yn yr unig garchar yng ngogledd Cymru."

"Mae'r ymateb diystyriol yma at sgiliau iaith Gymraeg yn torri Cynllun Iaith Gymraeg y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr, a byddaf yn codi'r mater hwn gyda gweinidogion y llywodraeth a Meri Huws , Comisiynydd y Gymraeg."

Mae disgwyl i'r carchar, fydd yn gallu dal mwy na 2000 o garcharorion, agor yn 2017.

Mewn ymateb, dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod pob hysbyseb allanol am swyddi yn y carchar yn rhai dwyieithog, ac er nad oedd disgwyl i'r Gymraeg fod yn hanfodol, roedd disgwyl y byddai'r Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu siarad gan rai staff ymhob ardal o'r carchar newydd.

Ychwanegodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder nad oedd data am nifer yr aelodau dwyieithog o staff yn cael ei gasglu'n ganolog.