Tri wedi eu hanafu wedi gwrthdrawiad car a beic modur

Mae tri o bobl wedi eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a beic modur yn ardal Pen-y-bont ddydd Mawrth.

Mae'r A48 ynghau wedi'r gwrthdrawiad rhwng cylchffordd Broadlands a chylchffordd Ewenni.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am tua 17:40.

Mae'r ymchwiliad i'r gwrthdrawiad yn parhau.