Owen Smith sefyll am arweinyddiaeth Llafur

smith Image copyright PA

Roedd Owen Smith wedi bod yn ystyried sefyll am arweinyddiaeth y blaid ers rhai dyddiau, ond y gobaith oedd y byddai'n gallu perswadio Jeremy Corbyn i gamu o'r neilltu ac osgoi ymgyrch arweinyddol waedlyd.

Ond gyda Jeremy Corbyn yn benderfynol o aros ymlaen a brwydro, mae Owen Smith nawr yn barod i daflu ei enw i'r het, gan ymuno ac Angela Eagle, sydd eisoes wedi cyhoeddi y bydd hi'n herio am yr arweinyddiaeth.

Fe gadarnhaodd Mr Smith ei fwriad mewn cyfweliad ar raglen Today ar BBC Radio 4, fore Mercher.

Diffyg hyder yn Corbyn

Mae Mr Smith, wnaeth ymddiswyddo fel llefarydd gwaith a phensiynau'r blaid, yn dweud ei fod yn cytuno gyda Jeremy Corbyn yn ei wrthwynebiad i doriadau'r Ceidwadwyr, ond dyw o ddim yn credu bod y cyhoedd yn ei weld fel prif weinidog.

Wrth i'r ceidwadwyr benodi ail brif weinidog benywaidd, mae Angela Eagle wedi dweud ei bod hi'n hen bryd i'r blaid Lafur ethol arweinydd benywaidd.

Wedi'r bleidlais o ddiffyg hyder yn eu harweinydd, roedd aelodau seneddol wedi gobeithio canfod un ymgeisydd i herio a churo Jeremy Corbyn.

Ond gyda dau nawr yn y ras, y peryg yw y bydden nhw'n rhannu'r bleidlais, a methu yn eu hymgais i gipio'r ariwenyddiaeth.