Paentio'r byd yn wyrdd

Cefnogwr pêl-droed Gwyddelig Image copyright ALLSPORT/Getty Images
Image caption Fe wnaeth cefnogwyr Cymru ac Iwerddon greu argraff yn Euro 2016 ond a fydd sefyllfa'r cefndryd Celtaidd sydd eisiau teithio neu weithio dramor yn wahanol yn y dyfodol?

Ydych chi wedi bod yn cribinio'ch coeden deulu yn y gobaith o ddod o hyd i waed Gwyddelig, neu gysylltiad teuluol ag unrhyw wlad Ewropeaidd arall, ers y bleidlais ym Mhrydain i adael yr Undeb Ewropeaidd?

Yn ôl Google roedd 'na gynnydd dramatig yn nifer y bobl oedd yn chwilio am sut i wneud cais am basbort Gwyddelig yn y dyddiau wedi'r refferendwm. Roedd Llysgenhadaeth Iwerddon yn Llundain hefyd yn brysur yn delio gyda ymholiadau am basborts Gwyddelig.

Mae Cymru Fyw wedi bod yn siarad gyda dwy sy'n gobeithio y gall pasbort Gwyddelig roi mwy o gyfle iddyn nhw yn Ewrop yn y dyfodol.


Jennifer Hanlon, Caernarfon

Mae Jennifer wedi ei magu yn Sir Fôn, mae hi'n briod â Chymro ac yn rhedeg siop yng Nghaernarfon. Gwyddelod yw ei rhieni ac mae ganddi basbort Gwyddelig yn barod gan ei bod wedi cael ei geni yn Iwerddon.

Image copyright Jennifer Hanlon

Ond wedi'r bleidlais i adael yr UE, mae hi rŵan yn bwriadu gwneud cais am basbort Gwyddelig i'w dau o blant, sy'n bump a dwy oed, hefyd:

"Ro'n i wedi meddwl am y peth o'r blaen ond rŵan dwi'n fwy penderfynol achos dwi'n poeni beth fydd eu opsiynau nhw yn y dyfodol.

"Fyddan nhw eisiau teithio, symud o gwmpas, gweithio yn rhywle arall? Dwi 'di tyfu fyny efo ffordd Ewropeaidd o feddwl. Dwi'n Wyddeles gynta' wedyn dwi'n meddwl mod i'n Ewropead, er mod i wedi tyfu fyny y rhan fwyaf o 'mywyd i yng Nghymru, achos mae 'nheulu i gyd yn Wyddelod.

"Rydan ni wedi teithio lot fel teulu, ac mae Mam a Dad yn Ewropeaidd iawn. Felly dyna sut dwi'n teimlo a dwi isho i mhlant i gael yr un opsiwn. A dwi'n poeni bod hyn yn mynd i gael effaith ar be' maen nhw eisiau ei wneud.

"Mae pethau fel fisas gwaith yn dod mewn iddi ac mi ryden ni wedi arfer jyst mynd dramor, fel yr holl bobl aeth i Ffrainc i weld y pêl-droed, doedd dim rhaid iddyn nhw feddwl, dim ond penderfynu mynd a dyna ni."

Aeth Jennifer nôl i fyw yn Nulyn yn ei hugeiniau ac mae wedi gweithio yn Llundain hefyd. Ydy hi wedi ystyried symud nôl i Iwerddon?

"Am y tro cyntaf a dweud y gwir, do. Dwi ddim isho, achos ma' fy musnes i yma, a dwi'n caru byw yng Nghaernarfon. Yr unig beth sydd yn cadw fi yma ydy fod Gwynedd wedi fôtio i aros i fewn!

"Felly, rydw i a'r gŵr wedi cael sgwrs am y peth. Ond dydan ni ddim isho.

"Mae'n deimlad od iawn, dwi erioed wedi teimlo hyn o'r blaen."

Angharad Williams, Penrhyndeudraeth:

Mae Angharad yn dod o Finffordd ger Penrhyndeudraeth yng Ngwynedd ond Gwyddeles yw ei mam. Fe wnaeth hi gais am basbort Gwyddelig yn 2008 am ei bod hi'n broses "rhatach a chyflymach" na chael un y DU.

Yn ôl rheolau dinasyddiaeth y wlad mae unrhyw un sydd â rhiant wedi eu geni yn Iwerddon yn ddinesydd Gwyddelig yn awtomatig ac yn gallu gwneud cais am basbort Gwyddelig.

Image copyright Press Association

Mae Angharad yn falch ei bod wedi cymryd y cam ac mae'n dweud bod ei chwaer hefyd am wneud yr un peth yn sgil y refferendwm.

"Dwi'n falch fod gen i basbort Ewropeaidd achos fydd teithio yn llawer haws, yn enwedig pan yn mynd i Ewrop.

"Mewn rhai gwledydd mae'r ciw i bobl heb basborts EU yn gallu bod yn hir ac yn araf. Does gen i ddim pasbort Prydeinig felly fydd rhaid i mi 'neud cais am un gan fy mod i'n teithio rhwng Prydain ac Iwerddon yn aml ac yn y dyfodol fedrith o fod yn anaddoch dod i fewn i'r wlad.

"Dwi yn poeni am y ffin rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon. Mae tensiwn yn dal i fod rhwng y ddwy wlad ac mae rhoi pobl sy'n gweithio i unrhyw lywodraeth ar y ffin yn eu rhoi mewn perygl gan derfysgaeth.

"Dwi'n meddwl fydd y berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon yn gallu cael ei effeithio achos fydd rhaid i Iwerddon weithio efo Prydain fel un corff mawr yn lle efo Cymru fel rhan o Ewrop."

Er bod llysgenhadaeth Iwerddon yn Llundain dan bwysau oherwydd y cynnydd mewn ceisiadau ar y funud maen nhw'n dweud nad oes angen i neb frysio i wneud cais gan y bydd y broses o adael yn debyg o gymryd "o leiaf dwy flynedd".

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.