Ymosodiad ar actor Y Gwyll yn Aberystwyth

bbc Image copyright S4C
Image caption Mae Aneirin Hughes yn chwarae rhan y Prif Uwch-arolygydd Brian Prosser yng nghyfres Y Gwyll.

Mae actor sy'n chwarae rhan plismon blaenllaw yng nghyfres deledu Y Gwyll yn gwella wedi ymosodiad honedig arno yn Aberystwyth.

Y gred yw bod Aneirin Hughes, 58, wedi cael anafiadau i'w wyneb yn dilyn y digwyddiad tu allan i Rummers Wine Bar ar Stryd y Bont yn oriau man fore Sul.

Mae dyn 21 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Mae Mr Hughes yn chwarae rhan y Prif Uwch-arolygydd Brian Prosser yng nghyfres Y Gwyll.