Bachgen, 16, wedi marw ar ôl cael ei daro gan feic modur

Rhys Rubery Image copyright Heddlu De Cymru

Mae bachgen 16 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda beic modur ym Mhen-y-bont, meddai Heddlu De Cymru.

Cafodd Rhys Rubery o Bencoed, oedd yn ddisgybl yn Ysgol Llanhari, ei daro gan feic Suzuki du wrth gerdded ger cyffordd Merthyr Mawr ar yr A48 tua 17:15 ddydd Mawrth.

Bu farw o'i anafiadau fore Mercher yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae ei deulu wedi rhoi teyrnged iddo, gan ddweud: "Fe wnaeth gyflawni gymaint mewn ychydig iawn o amser ar y blaned hon a byddwn wastad yn falch ohono.

"Rydym wedi torri ein calonnau. Roedd gymaint o bobl yn ei garu."

Dywedodd yr heddlu bod y beiciwr modur wedi cael man anafiadau, a bod yr ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau.