Ffordd yn Sir Conwy ynghau wedi gwrthdrawiad difrifol

Gwrthdrawiad

Mae rhan o ffordd y B4501 yn Sir Conwy wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar a beic modur.

Cafodd dau ambiwlans awyr eu galw i'r digwyddiad rhwng Gorsaf Dân Cerrigyrdrudion a Chanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig.

Cafodd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw am 17:50 nos Fercher.

Mae un dyn ag anafiadau difrifol wedi ei gludo i Ysbyty'r Brifysgol yn Stoke.

Image caption Cafodd dau ambiwlans awyr eu galw yn dilyn y gwrthdrawiad