Rhestr detholion FIFA: Safle Cymru'n codi

cymru

Mae corff rheoli pêl-droed y byd, FIFA, wedi cyhoeddi'r rhestr detholion ddiweddara', ac mae Cymru wedi codi 15 lle i safle 11.

Mae Lloegr i lawr i 13 tra bod Portiwgal wedi codi i'r chweched safle - a Ffrainc yn seithfed - yn dilyn pencampwriaeth Euro 2016.

Dim ond pedair blynedd sydd ers i Gymru ddisgyn i'w safle isaf erioed o 117 ar y rhestr.

Mae'r detholion yn cael eu defnyddio ar gyfer penderfynu pa wlad sydd ymhob grŵp yng ngemau rhagbrofol prif bencampwriaethau'r byd.

O ganlyniad, roedd Cymru ymysg y prif ddetholion wrth i drefn y grwpiau gael eu penderfynu gan UEFA ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia.

Fe roedden nhw ymysg y detholion isaf ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.

Yr Ariannin sy'n parhau i fod ar frig y rhestr.