Arweinydd UKIP: Nathan Gill i gefnogi Steven Woolfe

gill

Mae BBC Cymru yn deall bod arweinydd UKIP yng Nghymru wedi penderfynu cefnogi'r ASE, Steven Woolfe, yn ei ymgais i arwain y blaid yn genedlaethol.

Yn ôl ffynhonnell bwriad Nathan Gill yw bod yn y ras i ymgeisio fel dirprwy i Mr Woolfe.

Mae'r Aelod Seneddol Ewrop dros Ogledd Orllewin Lloegr wedi ei enwi fel y ceffyl blaen yn y ras i olynu Nigel Farage.

Mae disgwyl i Mr Woolfe lansio ei ymgyrch fore Iau.