Gadael yr UE: Galw am bolisiau Cymreig

A tractor in a field Image copyright Inpho

Trafodaethau ynglŷn â gadael yr Undeb Ewropeaidd sydd "ar frig yr agenda" ar ddiwrnod agoriadol Sioe Frenhinol Cymru.

Bydd Ysgrifennydd Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, yn cwrdd â chynrychiolwyr blaenllaw o fyd amaeth ar gyfer ail gyfarfod i drafod eu blaenoriaethau.

Fe ddywedodd hi fod yna gyfle "i ddilyn trywydd unigryw a phenodol Gymreig" wrth gynllunio dyfodol i'r sectorau amaeth, bwyd a'r amgylchedd y tu allan i'r UE.

Gan wrthod awgrymiadau mai San Steffan fyddai'n llunio Mesur Ffermio i Brydain yn dilyn Brexit, mynnodd Ms Griffiths taw "Llywodraeth Cymru fydd a rheolaeth dros hyn".

"Mae'n fater sy'n gwbwl ddatganoledig - felly ni fydd yn penderfynu be sy' orau i fyd amaeth o hyn allan."

Undebau ffermio

Bydd undebau ffermio ymysg rhai fydd yn ymuno â'r Ysgrifennydd ar gyfer y trafodaethau ar faes y Sioe yn Llanelwedd, gyda CLA Cymru yn galw ar Lywodraeth Prydain i roi rôl ffurfiol i Ms Griffiths yn y broses gynllunio ar gyfer gadael yr Undeb.

Dywedodd Cadeirydd CLA Cymru, David Wynne-Finch, y gallai economi cefn gwlad Cymru ffynnu y tu allan i'r UE "ond dim ond os yw ein hanghenion penodol ni yn cael sylw wrth gynllunio a gweithredu Brexit".

"Mae'n rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb sicrhau bod sedd i Ysgrifennydd Cabinet Materion Gwledig Llywodraeth Cymru wrth y bwrdd pan fod unrhyw drafodaeth allai effeithio ar ffermwyr a busnesau gwledig".

Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru wedi galw ar i ffermwyr "wneud y mwya' o fanteision yr Undeb Ewropeaidd" tra bod Cymru dal i fod yn rhan o'r sefydliad.

"Bydd ffermwyr Cymru'n parhau i dderbyn nawdd Ewropeaidd tan ein bod ni'n gadael," meddai arweinydd Plaid, Leanne Wood.

"Ond pan ddaw'r arian hwnnw i ben, mae angen i ni sicrhau bod yr un faint o gymorth yn dod i ffermwyr Cymru mewn taliadau uniongyrchol ag yr oedd cyn i ni adael yr UE."

Image caption Lesley Griffiths

Dan Bolisi Amaeth Cyffredinol yr UE mae Cymru'n derbyn oddeutu £250m y flwyddyn mewn taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn ogystal â thros £500m rhwng 2014-2020 ar gyfer rhaglen datblygu wledig.

Pan ofynnwyd iddi gan BBC Cymru os oedd modd gwarantu y byddai 'na system o fudd-daliadau o'r newydd yng Nghymru ar ôl i ni adael yr Undeb, fe ddywedodd Ms Griffiths na allai hi ragweld sefyllfa lle na fyddai na fudd-daliadau, ond y byddai'n rhaid i ffermwyr "gyfiawnhau hynny i'r trethdalwr".

'Lletchwith'

Yn ei chyfweliad fe wnaeth Ms Griffiths hefyd ymateb i feirniadaeth am sylwadau a wnaed ganddi yn y Senedd.

Galwodd y Ceidwadwyr arni i ymddiheuro ar ôl dweud "efallai nad ffermwyr oedd y bobl orau i redeg busnes".

"Mae'n siŵr mod i wedi dweud yr hyn wnes i mewn ffordd ychydig bach yn lletchwith.

"Yr hyn oeddwn yn trio dweud oedd fy mod i wedi cael trafodaethau cynnar, a'r hyn mae ffermwyr yn gofyn imi yw os allwn ni eu cefnogi nhw i ddod yn ddynion busnes gwell achos dydy nhw ddim yn hoffi'r biwrocratiaeth."

"Falle dylwn i fod wedi dweud yr hyn wnes i mewn ffordd llawer mwy huawdl ond dw i'n meddwl bod pobl wedi deall yr hyn oeddwn i yn feddwl.

"Mi gafodd fy sylwadau eu cymryd allan o'u cyd-destun."

Pwysigrwydd y diwydiant

Y llynedd, daeth bron i chwarter miliwn o ymwelwyr i'r Sioe yn Llanelwedd - hyn yn arwydd o bwysigrwydd y diwydiant i gymunedau gwledig ar hyd a lled Cymru.

Ond eleni mae'r ŵyl yn cael ei chynnal ar adeg o ansicrwydd i gefn gwlad na welwyd erioed ei fath o'r blaen yn ôl Llywydd Cymdeithas Sioe Frenhinol Cymru ar gyfer 2016, Richard Jones.

"Ry'n ni yn y niwl ar hyn o bryd ond gobeithio neith o arwain at gyfnod da yn y dyfodol," meddai.

"Ond mae hynny'n dibynnu yn llwyr ar y llywodraeth ac i ba raddau maen nhw'n gwrando ar ffermwyr.

"Dyw hi'n dda i ddim dod yma i'r sioe a dweud 'dwi'n clywed eich pryderon chi' ac yna mynd nôl i Gaerdydd ac anghofio am y peth."