Cyfle i gofleidio nid creu gwagle

Nid dyma'r ardal fwyaf Cymreig, ond mae yna groeso i bawb - beth bynnag fo'ch iaith, yn ôl Eddie Butler, wrth i Sir Fynwy groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol. Dylai iaith fod yn goflaid - nid ffordd o greu gwagle, meddai'r darlledwr a'r cyn chwaraewr rygbi.

Wir yn rhan o Gymru?

Cefais fy ngeni i Saeson mewn rhan Saesnig o Gymru - yr hen dref borthladd sydd bellach yn ddinas, sef Casnewydd - ac rydw i nawr yn byw yn yr hyn sydd ar ôl o'r hen Sir Fynwy.

"Sir Fynwy?" meddai rhai o hen selogion Parc y Scarlets. "Ddim wir yn rhan o Gymru, nag'yw?"

Wel mae e, a dydy e ddim. Byddai hi'n anodd dod o hyd i nifer o genedlaetholwyr Cymreig pybyr yn Sir Fynwy. Mae ymdeimlad o genedlaetholdeb ar y ffin yn dueddol o gael ei wthio gan bobl sydd yn byw rhywle arall, pobl sy'n gweld y ffin fel rhych gwg (frown line), yn hytrach na mat croeso anweledig. Ond yn sicr, nid yw Sir Fynwy yn Lloegr. Mae e yng Nghymru.

Serch hynny, 'does 'na ddim amheuaeth fy mod i, fel dinesydd o'r gornel yma, ar un adeg wedi teimlo mymryn bach yn anghyfforddus pan o'n i mewn rhannau mwy Cymraeg o'r wlad. Mae iaith yn goflaid hyfryd sydd yn gallu achosi i ddieithriaid ymdoddi'n ffrindiau, ond mae hefyd yn ddrws a allai gael ei gau yn wyneb rhai o'r tu fas. Does yna'r un ffordd well o greu gwagle rhwng pobl na thrwy iaith.

Teimlo'n gyfforddus yn y wlad

Mae yna dri pheth sydd yn gwneud i mi deimlo'n llai anghyfforddus y dyddiau yma. Yn gyntaf: darlledu yn Gymraeg, yn arbennig S4C. Mae'r sianel wedi bod drwy nifer o benodau - rhai tymhestlog iawn - ond mae dal gyda ni. Ac mae hynny'n golygu pob un ohonon ni. Dylai is-deitlau ennill Gwobr Nobel.

Image caption Dydy porfeydd Lloegr, yr ochr arall i'r Afon Gwy o Gymru, ddim wastad yn lasach yn ôl Eddie Butler

Mae'r Saesneg yn gallu bwlio ac â thafod finiog sy'n medru gwrthsefyll cenedl enwau. Gallai fyw'n eithaf hapus gyda'r defnydd o'r gair 'get' yn unig. 'Get off', 'get on', 'get away'... Mae'r Saesneg wedi achosi i nifer o ieithoedd boeni am eu dyfodol, ond mae S4C yn fodd i wneud i'r Gymraeg edrych mas yn hytrach na mewn. Yn sicr, mae cyd-fyw â'r Saesneg mewnlifol yn bosib.

Yr ail yw Datganoli. Ganwyd Llywodraeth y Cynulliad ar bleidlais dynn ac mae'n ymladd am hygrededd bob dydd o'i bywyd ifanc, heb ddigon o arian, ac â gormod o amheuaeth ohoni. Ond ni sydd berchen arni: i'w chadw a'i chryfhau. Un o'r pethau da am Sir Fynwy yw ein bod ddigon agos at borfeydd Lloegr er mwyn gallu gweld nad ydyn nhw, wir, yn lasach. Mae S4C a'r Llywodraeth yn sefydliadau allai greu cenedl a'n helpu i adeiladu wrth i'n hunan-hyder gynyddu.

Llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol

I mi, mae hi'n help fod y genedl, sydd wrthi'n cael ei hail-adeiladu - neu hyd yn oed ei hail-ddiffinio yn dilyn y Refferendwm - yn ddwyieithog, ond mae'r Eisteddfod Genedlaethol, sef fy nhrydydd elfen, yn ennill ei lle gyfan gwbl Gymraeg yn yr hafaliad.

Yn union fel y chwaraeodd 'Jocs florals' unwaith eu rhan yn Renaixença yr iaith Gatalan, mae'r Eisteddfod yn raff achub. Y gwahaniaeth efallai nad yw'n gymaint o gri heriol y dyddiau yma, ond yn hytrach yn ddathliad.

Image caption Mae Eddie yn gobeithio bydd Eisteddfod 2016 cystal â'r un yng Nglyn Ebwy, y tro diwethaf i'r ŵyl gael ei chynnal yn yr hen Sir Fynwy

Y tro diwethaf i'r Eisteddfod ymweld â'r hen Sir Fynwy (a oedd unwaith yn cynnwys Blaenau Gwent) roedd hi'n wych. Roedd yr ŵyl Gymraeg honno ar safle hen waith dur Glyn Ebwy yn 2010 yn theatr yn wir.

A nawr mae'r Maes yn dod oddi ar y mynydd, i lawr heibio i gartref yr Arglwyddes Llanofer, ac yn glanio ar lannau'r Wysg yn y Fenni. Efallai mai nid ni yw'r Cymry mwyaf Cymreig, ond mae hon yn gornel arbennig o Gymru - ac mae croeso i bawb yma. Pawb.

Pynciau Cysylltiedig