Owen Smith yn gohirio lansio ei ymgyrch i arwain Llafur

Owen Smith

Mae Owen Smith wedi gohirio lansiad ei ymgyrch am arweinyddiaeth y blaid Lafur yn dilyn yr ymosodiad yn Nice yn ne Ffrainc.

Roedd disgwyl i AS Pontypridd lansio ei ymgyrch i herio Jeremy Corbyn ac Angela Eagle yn ei etholaeth ddydd Gwener.

Ond yn ysgrifennu ar Twitter, dywedodd na fyddai'n parhau gyda'r digwyddiad.

Image copyright Twitter

Dywedodd: "Yn sgil y newyddion torcalonnus o Nice, rydw i'n canslo lansiad yr ymgyrch heddiw.

"Solidarité et fraternité avec le peuple Français."

Mae Mr Corbyn wedi wfftio galwadau i gamu o'i rôl fel arweinydd Llafur, ond roedd disgwyl i Mr Smith ddweud mai ef yw'r unig un all uno'r blaid ar hyn o bryd.

Roedd disgwyl iddo ddweud ei fod eisiau gwneud hynny "i'r miliynau o bobl ar draws Prydain sy'n edrych at y Blaid Lafur i roi gobaith ac optimistiaeth i'w bywydau".

Nid yw Mr Smith wedi cadarnhau pryd y bydd yn lansio ei ymgyrch eto.