Cynghrair Europa: FK Vojvodina 1-0 Gap Cei Connah

Gap Connah's Quay v Stabæk Image copyright NCM Media
Image caption Llwyddodd Cei Connah i guro Stabæk o Norwy yn y rownd flaenorol

Bu bron i Gap Cei Connah lwyddo i sicrhau gêm gyfartal yn Serbia yng Nghynghrair Europa ond i FK Vojvodina sgorio gôl hwyr yn y cymal cyntaf yn yr ail rownd ragbrofol.

Fe wnaeth yr ymwelwyr ddelio gyda phwysau mawr gan Vojvodina yn yr hanner cyntaf wrth i'r golwr John Danby gael ei gadw'n brysur.

Dim ond unwaith llwyddodd Cei Connah ergydio am gôl y tîm cartref, o'i gymharu â'u 24 ergyd, ond roedd y sgôr yn gyfartal nes i Aleksandar Palocevic sgorio gyda phum munud yn weddill.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chynnal yn stadiwm Belle Vue yn Y Rhyl nos Iau nesaf.