Morgannwg yn colli i Hampshire yn y T20 yn Southampton

Liam Dawson Image copyright Getty Images
Image caption Liam Dawson oedd prif sgoriwr Hampshire gyda 76 o rediadau

Fe wnaeth Liam Dawson serennu fel batiwr a bowliwr wrth i dîm amhrofiadol Hampshire guro Morgannwg yn y T20 yn Southampton nos Iau.

Ef oedd prif sgoriwr y tîm cartref gyda 76 o rediadau, a llwyddodd i gymryd pedair wiced wrth i Forgannwg fethu a chyrraedd targed Hampshire o 167.

Mark Wallace oedd yr unig chwaraewr lwyddodd i herio bowlwyr y tîm cartref, gan gyrraedd sgôr o 45.

Mae'r canlyniad yn ergyd i obeithion Morgannwg o ennill y gynghrair T20, yn enwedig am iddyn nhw golli eu gêm ddiwethaf yn erbyn Sir Gaerloyw hefyd.