Gweithwyr bws Casnewydd i weithredu'n ddiwydiannol

Newport Bus Image copyright Elliott Brown | Flickr

Mae gyrwyr cwmni bws Trafnidiaeth Casnewydd wedi penderfynu gweithredu'n ddiwydiannol o ganlyniad i ffrae dros dâl.

Mae'r cwmni'n cyflogi 250 o weithwyr ac yn cynnal mwy na 40 o wasanaethau yng Nghasnewydd, Caerdydd a Chwmbrân.

Bydd y streic yn cael ei chynnal ddydd Mawrth, 19 Gorffennaf.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni: "Rydyn ni wedi gwneud nifer o gynigion i gynyddu tâl ein staff. Yn anffodus, mae'r cynigion yma, yn cynnwys ein cynnig gorau diweddaraf, wedi cael eu gwrthod.

Dywedodd y cwmni y byddai'n ceisio cynnal cymaint o wasanaethau a phosib pe bai'r streic yn mynd yn ei flaen.