Trafodaethau hanfodol i bysgotwyr

draenogod y mor

Mae un o arweinwyr pysgotwyr Cymru wedi dweud ei bod yn hanfodol bod llais Cymru'n cael ei glywed mewn trafodaethau am reoli stoc pysgod yn dilyn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Jerry Percy o fudiad Low Impact Fishers of Europe bod "trafodaethau sylweddol iawn" yn wynebu Cymru wedi'r bleidlais i adael yr UE.

Fe gafodd cychod pysgota Cymru eu gwahardd rhag dal draenogod y môr am ddeufis yn gynharach eleni fel ymgais i atal dirywiad yn niferoedd y pysgod.

Fe ddywed gwyddonwyr bod y stoc o ddraenogod y môr yn dirywio'n arw.

Gwaharddiad llwyr

Eleni, mewn ymgais i wella'r sefyllfa, fe gyflwynodd yr UE gyfyngiadau ar faint o ddraenogod y môr all gael eu dal gan bysgotwyr masnachol a hamdden.

Ar hyn o bryd mae 419 o gychod pysgota wedi'u cofrestru yng Nghymru, ac fe wnaeth 137 o'r rhain ddal draenogod y môr yn 2015.

Fe gafodd hynny ei wahardd yn llwyr yn ystod Chwefror a Mawrth eleni.

I bysgotwyr hamdden sy'n dod i draethau Cymru i geisio dal draenogod y môr, mae gwaharddiad ar ddal mwy nag un y dydd rhwng 1 Gorffennaf a 31 Rhagfyr eleni.

O ganlyniad, mae busnesau sy'n ymwneud â'r diwydiant yn dweud eu bod ar eu colled - rhai cymaint â 75%.

'Cyfleoedd a heriau'

Dywedodd Mr Percy, oedd yn arfer gweithio ym maes rheoli pysgodfeydd yng Nghymru:

"Fe fydd trafodaethau sylweddol iawn am reoli'r stoc bysgod, ac mae'n rhaid i Gymru fod yn flaenllaw.

"Rhaid i'r llywodraeth fod yno i gefnogi pysgotwyr masnachol a hamdden a'r cymunedau arfordirol sy'n ddibynnol ar y ddau."

Cyngor gwyddonol diweddara'r ICES - Cyngor Rhyngwladol Archwilio'r Môr - yw argymell gwaharddiad llwyr ar bysgota draenogod y môr o 2017.

Dywedodd Ysgrifennydd Amgylchedd Cymru, Lesley Griffiths, wrth raglen Eye on Wales ar BBC Radio Wales: "Mae'n frwydr bwysig i mi ar ran Cymru wrth y bwrdd trafod.

"Mae'r Prif Weinidog wedi pwysleisio fod yn rhaid i ni fod yng nghanol unrhyw drafodaethau, ac fe fyddwn ni. Ond rhaid i ni ystyried y cyfleoedd yn ogystal â'r heriau.

"Nid ydym yn gwybod yr holl opsiynau sydd ar gael ar hyn o bryd, ac fe allai fod yn beth amser cyn y byddwn i'n gwybod.

"Rhaid aros a gweld beth fydd prif weinidog newydd y DU yn cynnig.

"Y peth pwysicaf yw bod gennym le yn y trafodaethau, ac fe fyddwn ni'n brwydro am y canlyniad gorau i bobl Cymru."