Cwblhau dymchwel pwerdy Didcot

Didcot Power Station demolition
Image caption Cafodd y ffrwydradau cyntaf eu tanio tua 06:00 ddydd Sul

Mae'r gwaith o ddymchwel rhan olaf pwerdy Didcot wedi ei gwblhau ddydd Sul.

Fe wnaeth rhan sylweddol o'r pwerdy ddymchwel ym mis Chwefror, gan ladd pedwar o ddynion, gan gynnwys Christopher Huxtable, 34 oed o Abertawe.

Dim ond cyrff un o'r dynion y mae'r awdurdodau wedi dod o hydd iddo hyd yn hyn.

Cafodd rhan olaf o ddymchwel y pwerdy yn Sir Rhydychen ei gwblhau drwy ddefnyddio ffrwydron gafodd eu cludo gan robotiaid.

Yn ol yr awdurdodau roedd hi'n rhy beryglus i weithwyr fentro i'r adeilad.

Roedd teuluoedd y tri gweithiwr sy'n parhau ar goll yn gwrthwynebu'r defnydd o ffrwydradau.

Image copyright AP

Dywedodd llefarydd ar ran RWE Npower fod y gwaith yn "hynod gymhleth", ac y byddai'r gwaith o adfer y cyrff yn ailddechrau yn syth ar ôl i'r adeilad gael ei ddymchwel a bod y safle yn ddiogel.

Y tri arall a gafodd eu lladd oedd Michael Collings, 53, o Teeside, a Ken Cresswell, 57, a John Shaw, 61, o Rotherham.

Cafodd corff Mr Collings ei ddarganfod yn fuan wedi 'r ddamwain.

Ond mae teuluoedd wedi beirniadu'r amser y mae cymryd i ddod o hyd i'r tri chorff arall.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dymchwel pwerdy Didcot