Seren Cymru Gareth Bale yn cyhoeddi dyweddïad

Gareth Bale Image copyright PA

Mae seren Cymru a Real Madrid Gareth Bale wedi dyweddïo â'i bartner Emma Rhys-Jones

Fe wnaeth yr ymosodwr 27 oed y cyhoeddiad ar wefan Twitter.

Roedd y pêl-droediwr hefyd yn dathlu ei ben-blwydd dydd Sadwrn.

Mae gan y cwpwl o Gaerdydd ddwy o ferched.

Daw cyhoeddiad Bale, pêl-droediwr drytaf y byd am £85 miliwn, ychydig dros wythnos ar ôl i dîm Cymru ddychwelyd adre o gystadleuaeth Euro 2016 ar ôl cyrraedd y rownd gynderfynol.

Image copyright Twitter