Beiciwr wedi marw mewn gwrthdrawiad ger y Bala

heddlu Image copyright Heddlu

Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad â dau gerbyd arall yng Ngwynedd ddydd Sul.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar ffordd yr A494 ym Methel, rhwng y Bala a Chorwen, am tua 12.20.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Yn anffodus, bu farw'r beiciwr modur yn dilyn y gwrthdrawiad."

Mae'r heddlu'n apelio am dystion.