Dim dŵr i rhai o drigolion Sir y Fflint

dwr Image copyright Thinkstock

Mae pibell ddŵr wedi byrstio, gan effeithio ar gyflenwadau dŵr yfed ardal New Brighton ger Yr Wyddgrug, Sir y Fflint.

Mae tîm o dechnegwyr Dŵr Cymru ar y safle yn ceisio adfer y cyflenwad, ac fe ddylai'r dŵr ddechrau llifo'n ôl erbyn ddiwedd y bore.

Cafodd ffordd yr A5119 ei chau i'r ddau gyfeiriad, gan achosi problemau traffig yn yr ardal.

Mae'r cwmni wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra gan ychwanegu y gallai rhai cwsmeriaid sylwi bod lliw anaturiol ar y dŵr tap pan gaiff y cyflenwad ei adfer.