Pleidlais trident yn 'stỳnt' i ddangos rhaniadau Llafur

Trident

Mae pleidlais ynglŷn ag uwchraddio system Trident Prydain yn "stỳnt i ddatgelu'r rhaniadau o fewn y blaid Lafur" meddai llefarydd Llafur ar Gymru, Paul Flynn.

Bydd ASau yn pleidleisio ddydd Llun ar gynllun Llywodraeth Prydain i adnewyddu'r taflegrau trident.

Mae'r SNP, Plaid Cymru a rhai ASau Llafur yn gwrthwynebu gwneud hyn.

Dywedodd yr AS Ceidwadol, David Davies na allan nhw ohirio trafod Trident tra bod Llafur yn "sortio ei hun".

Mae ymgeisydd Llafur ar gyfer yr arweinyddiaeth, Owen Smith, wedi dweud y bydd yn pleidleisio i gefnogi uwchraddio Trident, safbwynt gwahanol i'r arweinydd presennol Jeremy Corbyn.

Mae Paul Flynn yn y gorffennol wedi dweud bod Trident "yn wast o arian".

Dywedodd wrth BBC Cymru fod y bleidlais yn ymwneud gyda "chwarae gemau gwleidyddol."

'Pris bach i dalu'

"Bydd pleidlais rydd Llafur yn osgoi unrhyw niwed gwleidyddol."

Dywedodd David Davies AS fod gan y blaid Lafur "broblemau mewnol".

"Allwn ni ddim oedi o ran trafod sut i amddiffyn ein cenedl tra ein bod ni'n aros i'r blaid Lafur sortio ei hun."

Dywedodd llefarydd ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Arfau niwclear Prydain yw'r ffordd orau o warantu diogelwch ein cenedl a dyma pam bod y llywodraeth wedi ymrwymo i'w gadw.

"Rydyn ni'n darogan bydd y gost tua 0.2% y flwyddyn o wariant y llywodraeth- pris bach i dalu er mwyn sicrhau diogelwch dinasyddion Prydain."