Ffermwyr yn poeni am effaith ymestyn rheolau llygredd

Elinor a Jeffrey Evans
Image caption Mae Elinor a Jeffrey Evans yn poeni am effaith posib y rheolau newydd

Mae'r undebau amaeth wedi galw am eglurdeb gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â chynlluniau posib i ymestyn rheolau yn ymwneud a llygredd o ffermydd.

Ar hyn o bryd mae llai na 3% o dirwedd Cymru wedi'i ddynodi'n Barth a Beryglir gan Nitrad, neu Nitrate Vulnerable Zones (NVZs).

Mae ymgynghoriad i gyflwyno rhagor o'r parthau yn Sir Benfro, rhannau o Sir Gaerfyrddin a Sir Fôn wedi'i ohirio sawl gwaith.

Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru mae "diffyg gwybodaeth" yn achosi pryder mawr i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd allai gael eu heffeithio, gyda ffermwyr yn gohirio cynlluniau i fuddsoddi yn eu busnesau.

Diogelu ansawdd dŵr

Dywedodd Rebecca Voyle, Prif Swyddog yr Undeb yn Sir Benfro, bod Llywodraeth Cymru wedi sôn am NVZs newydd ers "rhyw flwyddyn a hanner".

"Mae sawl dyddiad gwahanol wedi cael eu rhoi ar gyfer dechrau ymgynghoriad ar y mater ac eto mae pobl yn dal i aros i weld a yw hyn yn mynd i ddigwydd," meddai.

Nod y parthau yw diogelu ansawdd dŵr afonydd a llynnoedd, gyda ffermwyr sy'n byw a gweithio ynddyn nhw dan gyfyngiadau llym ynglŷn â gwasgaru gwrtaith a silwair.

"Rydyn ni'n rhanbarth sy'n llawn ffermydd llaeth," esboniodd Ms Voyle, "a byddai'n rhaid i nifer lawer o ffermydd yma gynyddu eu capasiti o ran storio slyri."

"Ry'n ni'n sôn am orfod gwario cannoedd ar filoedd o bunnau mewn rhai achosion er mwyn addasu eu ffermydd i gyrraedd y safonau."

Gyda phrisiau llaeth yn isel a'r diciâu mewn gwartheg yn peri problemau dybryd yn yr ardal, does 'na "fawr ddim arian yn sbâr".

Yn ôl Ms Voyle, byddai rhai ffermydd yn mynd i'r wal petai'r rheolau newydd yn dod i rym.

'Arian yn llifo mas'

Dyna yw'r pryder ar Fferm Broadmoor ger Casblaidd, lle mae gan Jeffrey ac Elinor Evans ddigon o le i storio gwerth pedair wythnos o slyri yn eu llynnoedd presennol.

"Dyw gallu buddsoddi rhyw £100,000 ar system slyri newydd ddim ar ein radar ni ar y funud," esboniodd Elinor.

"Dy'n ni ddim wedi cael pris teg ers dros flwyddyn, felly un ffordd mae'r arian yn llifo a mas yw e.

"Mae'r banciau'n dechrau gofidio nawr a dim ond cadw'n pennau ar ben y dŵr ydyn ni.

"Bydd rhaid i Lywodraeth Cymru edrych yn fanwl iawn ar hyn os ydyn nhw eisiau busnesau fferm teuluol fel ein un ni i barhau."

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn dadlau bod y rheolau'n allweddol er mwyn atal llygredd dŵr pan fo lefelau uchel o nitrad yn cael eu golchi i afonydd a nentydd o dir fferm gyda glaw.

Byddai ffermwyr yn dadlau mai eu sector yw dim ond un o nifer sy'n effeithio ar ansawdd dŵr.

Yn ôl Ms Voyle does dim cynnydd wedi bod mewn lefelau nitrad yn nyfroedd Sir Benfro yn ddiweddar ac mae ffermwyr yn rheoli eu slyri a'u gwrtaith mewn "ffordd llawer gwell" nac yn y gorffennol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths wrth BBC Cymru ei bod hi wedi ymrwymo i gynnal ymgynghoriad ar ddynodiadau NVZ newydd, a byddai hynny'n digwydd "siŵr o fod ym mis Medi".

Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai arian nawdd yn debygol o fod ar gael i helpu ffermwyr gydymffurfio a'r rheolau newydd.