Rhybudd am stormydd ar draws y wlad ar ôl tywydd braf

Map/Glaw Image copyright Y Swyddfa Dywydd/Getty Images

Wrth i Gymru brofi diwrnod poethaf y flwyddyn hyd yn hyn, mae rhybudd ar gyfer tywydd garw mewn grym ar draws Cymru yn hwyrach ddydd Mawrth.

Fe gyrhaeddodd y tymheredd 31.2C ym Mhorthmadog ddydd Mawrth, gyda sawl rhan arall o Gymru'n cael tywydd tebyg yn ystod y dydd.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gall y tywydd droi erbyn y prynhawn, gyda glaw trwm a stormydd yn bosib yn ddiweddarach, a pherygl o lifogydd mewn rhai mannau.

Mae'r rhybudd mewn grym ar draws Cymru rhwng 17:00 ddydd Mawrth a 18:00 ddydd Mercher.