Morgannwg yn nesáu at fuddugoliaeth gynta'r tymor

Craig Meschede Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Morgannwg yn nesáu at eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor ym Mhencampwriaeth y Siroedd ar ôl gorfodi Derbyshire i fatio eto, gyda'r ymwelwyr 341 o rediadau y tu ôl.

Cafodd Derbyshire eu bowlio allan am 177 yn eu batiad cyntaf yn dilyn sgôr Morgannwg o 518.

Ond fe wnaeth safon batio'r ymwelwyr wella ar ôl cael eu gorfodi i fatio eto, gan gyrraedd 78-1 ar ddiwedd y chwarae ar yr ail ddiwrnod ym Mae Colwyn.

Gyda disgwyl iddi lawio ddydd Iau, bydd Morgannwg yn awyddus i ddod a'r gêm i ben ddydd Mercher i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor.