Diwrnod caled yn y maes i Forgannwg

chesney hughes Image copyright Getty Images
Image caption Sgoriodd Chesney Hughes 122 i'r ymwelwyr

Pan ddechreuodd y chwarae fore Mawrth, roedd Morgannwg mewn sefyllfa gref yn erbyn Sir Derby ym Mhencampwriaeth y Siroedd. Roedd yr ymwelwyr yn 78 am 1 yn eu hail fatiad ar ôl cael eu gorfodi i fatio eto, ac roedd y tîm cartref ymhell ar y blaen.

Erbyn i'r chwarae ddod i ben, roedd gan Sir Derby fantais o 72 o rediadau gyda phedair wiced yn weddill o'r batiad wedi iddyn nhw fwynhau diwrnod campus wrth y llain.

Gan fod rhagolygon y tywydd ddydd Mercher yn wael, gêm gyfartal yw'r canlyniad mwyaf tebygol o bosib, ond fe ddaeth gobaith i Forgannwg wrth iddyn nhw gipio wicedi yn hwyr yn y dydd.

Chesney Hughes (122) a Wayne Madsen (90) wnaeth y difrod mwyaf mewn partneriaeth o 181 am y drydedd wiced, ond daeth Billy Godelman y capten i'r llain wedyn gan sgorio 66 heb fod allan.

Er i Forgannwg ddefnyddio saith bowliwr, dim ond Graham Wagg lwyddodd i gipio mwy nag un wiced, ac fe fydd yn rhaid i'r tîm cartref gipio'r wicedi sy'n weddill yn gynnar ddydd Mercher os am gael y pwyntiau llawn.

Morgannwg v Sir Derby (diwedd y trydydd diwrnod):

Morgannwg (batiad cyntaf) = 518

Sir Derby (batiad cyntaf) = 177

(ail fatiad) 413 am 6