'Y diciâu yw'r broblem fwyaf i les anifeiliaid'

TB

Y diciâu mewn gwartheg yw'r "broblem fwyaf" i wynebu iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru mewn cenhedlaeth, yn ôl Prif Filfeddyg Cymru.

Ar ôl 11 mlynedd yn y swydd, dywedodd yr Athro Christianne Glossop wrth BBC Cymru: "Does 'na ddim diwrnod wedi mynd heibio lle nad ydw i wedi bod yn canolbwyntio'n llwyr ar TB."

Fe amddiffynnodd ymdrechion Llywodraeth Cymru i frwydro'r clefyd, yn dilyn cyhuddiadau gan undebau ffermio eu bod yn "llusgo'u traed".

Yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, mae arweinwyr y diwydiant wedi galw eto am gynllun difa moch daear, gan honni y gallai'r sefyllfa bresennol olygu bod cytundebau masnach ar ôl Brexit mewn perygl.

Dangosodd ystadegau'r llywodraeth bod 8,103 o wartheg wedi'u lladd yng Nghymru o ganlyniad i'r diciâu yn 2015 - cynnydd o dros chwarter ers 2014, pan gafodd 6,378 eu difa.

'Deall y clefyd'

Dadl yr Athro Glossop yw ei bod hi'n bwysig peidio beirniadu'r rhaglen i gael gwared â TB ar un ystadegyn yn unig.

"Os y'n ni am ennill y frwydr, mae'n rhaid i ni ddeall popeth ynglŷn â'r clefyd," meddai.

"Ry'n ni'n ymchwilio yn ddyfnach i ffermydd sydd â TB, ry'n ni'n profi yn galetach, ry'n ni'n defnyddio profion sy'n fwy sensitif a ry'n ni hefyd yn cymryd mwy o wartheg o'r system os y'n ni'n amau fod y diciâu ganddyn nhw.

"Y bwriad yw trio cael yr haint mas o'r fferm cyn gynted â phosib, ac oherwydd hynny, ry'n ni'n cymryd mwy o'r anifeiliaid ar hyn o bryd.

"Felly, mae niferoedd y gwartheg sy'n cael eu lladd yn cynyddu ond mae nifer y ffermydd â TB hefyd yn disgyn."

Gostyngiad

Ers dechrau cynllun Llywodraeth Cymru i ddileu TB mewn gwartheg yn 2008 mae gostyngiad o 37% wedi bod mewn achosion newydd o'r diciâu.

Dywedodd yr Athro Glossop bod oddeutu 5% o ffermydd yng Nghymru yn wynebu problemau ar hyn o bryd.

Ond mae'r clefyd yn effeithio ar rai ardaloedd yn llawer gwaeth nac eraill, gyda lefelau uwch o achosion yng ngorllewin y wlad ac ar hyd y ffin â Lloegr.

Mae cynllun pum mlynedd o hyd i frechu moch daear yng ngogledd Sir Benfro wedi'i gohirio ar hyn o bryd ar ôl prinder byd-eang o'r brechlyn BCG.

Annog y llywodraeth i gefnu ar y cynllun mae'r undebau amaeth gan honni ei fod yn arbrawf "costus a diwerth".

Dywedodd yr Athro Glossop ei bod hi'n rhy gynnar eto i ddweud a oedd y cynllun wedi gweithio a ph'run ai byddai'r llywodraeth yn ei ailddechrau yn 2017.

"Os byddwn ni mewn sefyllfa i gael gafael ar frechlyn y flwyddyn nesa', yna fe fydd raid i ni ystyried a yw pumed flwyddyn o frechu mewn un ardal yn mynd i gynnig buddion sy' werth y gost," meddai.

'Chwalu cefn gwlad'

Mae'r diciâu wedi taro fferm Gareth Richards yn Abergwili, Sir Gaerfyrddin, deirgwaith.

Dywedodd wrth BBC Cymru Fyw bod ymdrechion y llywodraeth i gael gwared â'r clefyd wedi bod yn "ofnadwy".

"Wnawn nhw ddim cael gafael ar y broblem tan eu bod nhw'n fodlon taclo'r TB mewn bywyd gwyllt," meddai.

"Mae'n ormod o daten boeth wleidyddol, ac o'r herwydd, mae'n chwalu cefn gwlad Cymru'n llwyr."

Delio â'r broblem

Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts: "Ry'n ni'n gwybod bod y diciâu yn cynrychioli bygythiad sylweddol i ni yn nhermau allforion cig a llaeth, unwaith ein bod ni tu allan i'r UE, ac mae 'na risg go iawn y byddai'n statws TB presennol ni'n gweithio yn ein herbyn ni yn ystod trafodaethau masnach.

"Mae hyn yn golygu bod angen i ni ddelio â'r broblem ar frys, neu fe fyddwn ni'n peryglu holl drafodaethau'r DU ar fasnach ag Ewrop."

Fe fydd cynlluniau i ddifa moch daear yn dychwelyd i Loegr yn yr hydref, gydag arbrofion yn digwydd yn Sir Gaerloyw, Gwlad yr Haf a Dorset.

Bydd yr Athro Glossop yn annerch ffermwyr mewn seminar yn adeilad UAC ar faes y Sioe ddydd Mercher, gan sôn am yr ymdrechion i daclo TB.

Dywedodd Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, Lesley Griffiths ei bod hi'n bwriadu gwneud datganiad ar y mater yn yr hydref, gan gydnabod ei fod yn bwnc sy'n peri pryder mawr i fyd amaeth.