Bws ar dân yng Nghaerdydd

BBC Image copyright Jeremy Grange

Cafodd y gwasnaethau brys eu galw wedi i fws fynd ar dân yng nghanol Caerdydd nos Fercher.

Fe gafodd dwy injan o Wasanaeth Tân ac Achub y De eu hanfon i ddelio â'r fflamau ar Stryd y Castell ger gwesty'r Angel.

Doedd neb ar y bws ar y pryd a chafodd neb ei anafu.

Yn ôl y gwasanaeth tân, doedd y tan ddim wedi ei gynnau'n fwriadol.